Radiographic

17 Ebrill - 22 Mai 2004

Calum Stirling, Tectonic Plates
Calum Stirling, Tectonic Plates

RADIOGRAFFIG

Mae’r sioe a elwir yn “Radiograffig yn trafod a chreu ‘sain’ yn yr un modd a fydden ni’n mynd ati i drafod a chreu ‘delwedd’. Wrth ddilyn y trywydd yma o gwestiynnu gwelwn fod gan y cyfrwng radio tueddiad tuag at esthetig arbennig, o’r ansawdd niwlog a gawn mewn amleddau tonfedd canol a thonfedd hir i’r ansawdd gorgywir a gawn o ol gor-gynhyrchu pop diweddar. Mae gan orsfeydd radio unigol esthetig arbennig eu hun hefyd: o uniongyrchedd tafladwy Radio 1 y BBC i’r suo-gan melys, llonydd a gawn o’r gyfnewid wybodaeth ar Radio 4. Mae’r esthetig clywedol yma yn sail i’r sioe Radiograffig, er nid sioe sain yn unig yw hon, yn hytrach mae’n ceisio darganfod y croesfannau, y tebygiadau a’r cyd-ddigwyddiadau rhwng y clywedol a’r gweledol.

Wrth fynd i mewn i’r oriel, mae’r gwyliwr yn ymwybodol o swn drystiog isel sydd yn codi o’r seler. Mae ‘From Below’ – gwaith gan Dave Handford yn creu amgylchedd drymaidd sy’n defnyddio ffiseg sonig i ysgogi’r profiad o fod o fod yn gaeth yn nyfnderoedd y mor. Mae osgilosgop yn dangos ffurf y tonnau o’r amleddau is-sonig fel mae nhw’n dirgrynnu drwy’r gwagle tanddaearol. Mae’r darn yn cynnwys adroddiad gan yr artist o “Xenobathite Song”, ynghyd a seineg electronig analog. Ysgrifennwyd “Xenobathite Song” gan John Wyndham, a daw o’i stori “The Kraken Wakes”, 1953. Roedd paranoia Rhyfel Oer y 1950au wrth wraiid gwaith Wyndham, ac roedd yn aml yn delio gyda’r ofnau/arswydau anhysbus ag ymlusgol a oedd yn ymguddio o’n hamgylch. Dyma yr un cyfnod a wnaeth “War of the Worlds” a dramau radio eraill gael eu ddefnyddio i arswydo ag i ddiddanu cenedl o wrandawyr, ac ar yr un adeg a wnaeth gweithdai Radioffonig y BBC cael eu ddatblygu yn gyntaf –mae gwaith Dave yn cyfeirio at hyn hefyd. Mae ei waith yn parhau gyda’r traddodiad yma o beirianneg sain, wrth ddefnyddio dull alcemydd i lunio gweithiau haniaethol a threfnus sydd yn trin sain yn ei holl ffurfiau.

Ar y llawr isaf mae “Sound City” Matt Cook wedi eu hadeiladu yn rhannol wrth drin tap sain a pheirianwaith chwareydd caset, ac yn rhannol o samplau sain wedi’u tarddu o’r tirlun dinesig. Wrth ddilyn llwybr rhagarfaethedig, mae clymau o dap sain yn mynd igam-ogam drwy’r ddinas ac felly’n creu seiniau ailadroddol tra’n symud. Wrth i’r clymau o dap sain dirywio dros amser, mae ansawdd y sain yn gwaethygu’n raddol ac ymhen amser mae’r darn cyfan yn torri’n ddarnau. Prif ddiddordeb Matt ydy swn a threfniant/cylchoedd rhythmig, yn enwedig y synau hynny rydy’n ni’n creu yn ein bywydau bob dydd sy’n dynwared rhythmau naturiol y byd a rhythmau ffug y ddinas.

Mae “Tectonic Plates” Calum Sterling ar y llawr cyntaf yn mynd a ni ar daith dra wahanol – taith i mewn i micro-daearyddiaeth o rhigol record finyl. Mae’r fideo 3-munud yn portreadu disgfflecsi (a wnaed yn arbennig) yn troi hanner cylchdro i bob munud o olwg y nodwydd. Mae’r fideo yn mynd ar daith annaearol drwy tirlun cwm sydd ar yr un pryd yn gredadwy ac yn rhyfedd o artiffisial. Y trac sain ar gyfer y delweddau rhyfedd yma ydy synnau isel o’r nodwydd yn erbyn waliau’r rhigol. Wnaeth Stirling gynhyrchu’r fersiwn yma o Tectonic Plates drwy model wedi’i gynhyrchu gan cyfrifiadur o dirwedd y rhigol – drwy ddefnyddio sgan manwl o dri cylchdroead o arwyneb y record.

Ar y llawr ucha’ mae darn Jem Finer -sef “Space Station” yn gwrando ar gerddoriaeth y lloer. Yma , cawn amryw o recordiau o wahanol darddiad radio allfydol – ymhlith rhain cawn ffrwydriadau o ser gwib, fflachiadau’r haul, pylsarau, a darllediadau o’r blaned Iau. Mae’r casgliad yma o recordiau yn gwneud rhestr o gerddoriaeth yn null jiwcbocs sydd hefyd yn cynnwys caneuon a cherddoriaeth wedi’i dewis yn ol cyfeirnod y teitlau i’r gofod a’r bydysawd. Heb unrhyw ymyrraeth dynol, mae’r “Gorsaf Ofod” yn dethol y traciau yma ar hap ac yn ei chwarae yn ol ochr yn ochr yn erbyn cefndir o hen ffilm a ddarganfiwyd, ac o ddelweddau llonydd. Mae’r delweddau hyn yn ei tro yn cael eu heffeithio yn ol dadansoddiad o’r amleddau a’r chwyddamlenni o fewn y cymysgedd wybrennol.

Wrth edrych ar astronomeg radio allwn weld fod y clywedol yn cwrdd a’r graffig. Mae pelydriad radio-amledd (RA) yn achosi cerrynt trydanol gwan iawn mewn antena – er mwyn dehongli’r wybodaeth yma mae radio-seryddwyr yn ei drosi i mewn i’r maes weledol, ac yn mapio’r amleddau, eu cryfderau a’u lleoliad. Yn tywynnu i lawr o bob cwr o’r bydysawd mae yna signalau sydd wedi bod yn darlledu’n ddi-baid am biliynau o flynyddoedd. Dim tinciau, dim rhaglenni ffonio i mewn, dim newyddion trafnidiaeth, dim cymeriadau, dim hysbysebion, dim cystadlaethau, dim esthetig. . . . ond efallai fod yna, yr esthetig o ddata crai. . . “ a steady hiss type static of unknown origin” (Karl Jansky 1931)

Mae’r artistiaid yn y sioe Radiograffig i gyd yn rhannu cyfareddiad gyda’r defnydd o swn yng nghelf a’r ffisegolaeth o’i ddarllediad – tap sain, osgilosgopau, tonnau radio, rhigolau finyl – er mae eu cyfeiriadau yn aros yn gryf wrth wraidd y seiniau a glywir bob dydd, mae nhw’n cwblhau darlun mwy eang ac yn creu ymwybyddiaeth o’r rol sydd gan y sonig i chwarae yn ein dealltwriaeth o’r byd o’n hamgylch.


  • Calum Stirling, Tectonic Plates
  • Matt Cook, Sound City
  • Matt Cook, Sound City
  • Dave Handford, From Below
  • Dave Handford, From Below
  • Jem Finer, Space Station

Programme