Awst & Walther: The Conversation

29 Mai - 3 Gorffennaf 2010

<b>Awst and Walther</b>, <i>Untitled</i>, 2010
Awst and Walther, Untitled, 2010

G39 welcomes collaborative couple Manon Awst and Benjamin Walther to exhibit a collection of new and recent works. This exhibition started as a conversation about their own personal relationship and how it becomes manifest within their work. There is a privacy to this work made on a very public platform. As an observer of this public / private dialogue a reference was made to Francis Ford Coppola’s film ‘The Conversation’ (1974) where a paranoid and personally secretive surveillance expert has a crisis of conscience when he suspects that a couple he is spying on will be murdered. Within this show the curator, artists and audience are all offered the position of observer or initiator of this conversation.

Mae g39 yn croesawu'r cwpl cydweithredol, Manon Awst a Benjamin Walther i arddangos casgliad o waith newydd a diweddar. Tarddiad yr arddangosfa hon oedd sgwrs am eu perthynas bersonol a'r ffordd mae'n dod i'r amlwg yn eu gwaith. Mae'r preifatrwydd sydd yn y gwaith hwn yn cael ei arddangos ar lwyfan cyhoeddus iawn. Fel un sy'n arsylwi ar y ddeialog gyhoeddus / breifat, cyfeiriwyd at ffilm 'The Conversation' (1974) Francis Ford Coppola, lle mae arbenigwr arwylio paranoiaidd a chyfrinachgar yn dioddef diffyg hyder pan fydd yn amau y bydd y cwpl y mae'n ysbio arnynt yn cael eu llofruddio. O fewn y sioe hon, mae'r curadur, yr artistiaid a'r gynulleidfa yn cael y cyfle i naill ai arsylwi ar y sgwrs hon, neu ei chychwyn.


Ar noson y ragarddangosfa, gosododd yr artistiaid lwyfan, Untitled (2010), y tu allan i ffenestr yr oriel. Cafodd y llwyfan ei oleuo o'r tu mewn gan sbotolau theatr. Nid oes yr un perfformiwr ar y llwyfan ac felly nid oes cynulleidfa ychwaith, dim ond tystion i berfformwyr a chynulleidfaoedd posibl. Mae'r gydberthynas ddiogel rhwng y perfformiwr a'r gynulleidfa wedi cael ei symud o'r theatr i fan cyhoeddus gyda'r potensial o annog rhethreg a'r gwawdio anochel.

Mewn man arall, mae delwedd fach sy'n cael ei hanwybyddu i raddau yn cael ei thaflunio, lle mae Awst yn symud, yn dadwisgo, ac yn rhyngweithio o fewn gofod perfformio gwyn gwag. Mae Do Something (2009) yn frysiog, bron yn ddoniol, ac yn hunangyfeiriedig yn ôl pob tebyg - ar wahân i'r ffaith fod Walther yn rhoi cyfarwyddyd anghlywedig ac anweledig i Awst berfformio. Beth yw ei gymhellion sy'n arwain ei bartner i wneud cyfres o symudiadau rhyfedd? Daw Untitled a Do Something at ei gilydd yn dilyn y rhagarddangosiad: caiff y llwyfan ei adleoli y tu mewn ond mae'r sbotolau yn parhau i daflu ei olau y tu allan, gan ddangos bod y llwyfan wedi cael ei symud. Caiff Do Something ei chuddio y tu ôl lwyfan sy'n sefyll ar ei ben ac mae'r ddeialog gamweithredol yn dod yn fwy preifat fyth.

Mae canhwyllyr grawnwin godidog yn dwyn yr holl sylw, Das süße Leben (The Sweet Life, 2010). Fel arfer, mae tlysau crog crisial canhwyllyr yn plygu ac yn chwyddo pelydryn o olau, ond yma, mae'r golau'n cael ei guddio, serch mai rhywbeth mor brydferth â chrisial ydyw. Mae'r bownti grawnwin hwn yn arwain at entropi anochel, ac mae'r hyn a oedd unwaith yn ffres ac yn llachar bellach yn enghraifft o bydredd. Mae'r datganiad beiddgar hwn yn anghytuno â'r syniad o ddeialog, sydd yn broses sy'n esblygu ac yn tyfu; mae'r sgwrs hon wedi'i llunio'n gyfan, gyda'r unig bosibilrwydd o ddadfeilio.

I gloi, mae Untitled (Body Bag) (2010) yn cyflwyno ffurf wlyb, llwyd, wedi'i llusgo'n amrwd o ryw fan tywyll. Mae'r datganiad terfynol hwn, sy'n debyg i gyrff wedi'u tynnu'n bedwar aelod a phen wedi'u plethu mewn cofleidiad terfynol, yn nodi diwedd y sgwrs, a'r unig ateb yw cyfres o atebion yn cael eu sibrwd mewn Archive of Beginnings (Rhif. 6, 12, 15, 22) (2006 – parhaus). Mae'r darnau hyn yn rhoi'r awgrym lleiaf o symudiad a gweithgarwch: erthygl papur newydd, darlun bach, llungopi aneglur a ffotograff bach du a gwyn. Yn dilyn erchylltra a thensiwn Untitled (Body Bag) rydym yn cael ein gadael i feddwl am y gydberthynas rhwng y gwrthrychau hyn, a'u harwyddocâd (neu eu diffyg arwyddocâd) i'r artistiaid a ni.

Yn ystod adegau penodol o fewn y sioe hon mae'r artistiaid yn ein gwahodd i dystio, neu ymgysylltu, arsylwi neu gymryd rhan. Mae rhai o'r dialogau yn gaeedig ac ni fyddant fyth yn cael eu datgelu, a bydd rhai o'r trafodaethau yn gwbl agored. Pan fyddwn y tu allan i ddeuoliaeth mae'n anodd gwybod i sicrwydd am unrhyw fanylion unigol sy'n creu'r cyfan, rydym yn dibynnu ar waith dyfalu a thybio anochel. Ond mae'r sgwrs yn rhywbeth sy'n ein tynnu i mewn i geisio ennyn rhyw fath o ddealltwriaeth.

This show was curated by
  • Michael Cousin
    • <b>Awst and Walther</b>, detail of <i>Das süße Leben</i> (The Sweet Life), 2010
    • <b>Awst and Walther</b>, <i>Untitled (Body Bag) </i>, 2010
    • <b>Awst and Walther</b>, <i>Untitled (Body Bag) </i>, 2010
    • <b>Awst and Walther</b>, <i>Das süße Leben</i> (The Sweet Life), 2010
    • <b>Awst and Walther</b>, <i>Untitled</i>, 2010
    • <b>Awst and Walther</b>, <i>Do Something</i>, (2009)
    • <b>Awst and Walther</b>, <i>Untitled</i>, 2010
    • <b>Awst and Walther</b>, <i>Archive of Beginnings</i> (No. 6, 12, 15, 22), 2006 – ongoing

    Programme