11.00-13.00

Ymunwch â ni ar gyfer brunch am ddim cyn Pride! Croeso i bawb!
Mae Engage yn trefnu’r sesiynau hyn i ymarferwyr celfyddydau creadigol a llesiant a’r gymuned ehangach allu cysylltu â’i gilydd ac mae’r Dorf Gymunedol yn ddewis amgen i agoriad/digwyddiad lansio, man cymdeithasol i ddod at ein gilydd a rhannu bwyd yn lle diodydd, lle i gyfarfod â ffrindiau a mwynhau celf gyda’n gilydd.
Bydd Rachel Kinchin, artist, Cyfarwyddwr Artistig PWSH a Chrëwr Neurospicy Play Dates yn creu lle tawel, straen isel ar gyfer chwarae cyfochrog lliwgar a hygyrch a chysylltu pobl â chelf, hyd yn oed os mai am gyfnod byr un unig yw hynny. Bydd Rachel yn cyflwyno gweithgareddau creadigol, neu gallwch ddod â’ch prosiect eich hun. Bydd Rachel hefyd yn paratoi brunch i bobl gael dod at ei gilydd, bwyta, bod yn chwareus a sgwrsio.
Mae hi’n ymrwymo i greu mannau niwro-gynhwysol a chynhwysol i bobl ddod at ei gilydd i rannu syniadau a meithrin cysylltiadau ystyrlon. Bydd man tawel yn llyfrgell g39 ar gyfer y Dorf Gymdogol.
Bydd y tîm o Engage Cymru, g39 a PAM Common Art Collective yno. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyfarfod â chi a sgwriso am eich prosiectau a’ch syniadau.
Byddwn ni’n hapus i sgwrsio yn Gymraeg neu Saesneg.
Lleoliad a Mynediad
Cynhelir y digwyddiad yn g39.
Mae g39 yn hygyrch ac ar y llawr daear heb unrhyw risiau ar y tu mewn.
Mae maes parcio o flaen yr adeilad gyda mannau i ymwelwyr barcio.
Mae’r toiledau’n hygyrch ac yn niwtral o ran rhywedd.
Ceir disgrifiad sain o’r adeilad yma.
Bydd gennym ni deganau ffidlan, clustffonau sy’n dileu sŵn a chwyddaduron.
Bydd y bwyd yn figanaidd/llysieuol.
Os oes gennych chi unrhyw ofynion dietegol, ofynion mynediad neu os hoffech drafod sut y gallen ni eich cynorthwyo i ddod cysylltwch â Sian ar ebost: cymru@engage.org.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants