14.00-15.00

Dewch i wrando ar Radha Patel a Umulkhayr Mohamed, artistiaid Casgleb DARCH wrth iddyn nhw rannu eu syniadau ynghylch Heaven in the Ground drwy fynd â chi ar daith o’r arddangosfa.
Bydd y daith arbennig hon yn digwydd yn y cnawd ac yn para oddeutu awr. Bydd yn cynnig golwg arall ar ymarfer yr artistiaid a’u proses o greu, ynghyd â chynnig golwg ddyfnach ar y cyfeiriadau a’r themâu sy’n bresennol yn y gwaith.
Mae croeso i chi ofyn cwestiynau trwy gydol y daith ac ar y diwedd. Os hoffech chi ofyn am unrhyw gefnogaeth mynediad neu i gysylltu gydag unrhyw gwestiynau, ebostiwch post@g39.org.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants