SOLD OUT

Bydd y gweithdy hwn yn cynnig cyflwyniad i harddwch caligraffi Persiaidd, gan ganolbwyntio ar lawysgrifen gosgeiddig Nastaliq a Shekasteh Nastaliq.
Bydd gan gyfranogwyr gyfle i roi tro ar sgwennu gyda llythrennau traddodiadol, gan archwilio rhythm a symudiad y pen, a chysylltu gydag ysbryd barddonol caligraffi Iranaidd.
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol – mae’r gweithdy ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn celf, diwylliant ac ymarfer creadigol ystyriol.
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd pob person yn derbyn darn caligraffi wedi sgwennu â llaw fel cofrodd arbennig o’r gweithdy.
Mae’r gweithdy hwn am ddim ond bydd angen archebu tocyn, gellir gwneud hynny fan hyn.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants