TactileBOSCH + SGOR Residency
Mae tactileBOSCH yn cyflwyno rhaglen haf o ddigwyddiadau byw ar draws g39 a Ffotogallery, yn cynnwys perfformiadau, gweithdai, a sesiynau galw heibio gan y gydweithfa perfformio SGOR.
Mae SGOR yn llysnafedd curiadol o bobl od ac artistiaid o bob cwr Cymru.
Wedi ei ddyfeisio yn 2022 fel cythruddiad i archwilio “byw-iaeth” a pherfformiadwyedd o fewn y cyd-destun Cymreig, mae SGOR yn gysawd chwilfrydig o egnïon a gobeithion, yn ail-siapio ac yn ailddiffinio ffiniau ei fynegiadau creadigol yn ddi-baid.
Yn ganolog i ddull y grŵp mae’r awch am fywiogrwydd, cydweithrediad, cyd-awduriaeth, beiddgarwch, tynerwch, y diflanedig, a’r “byw”. Yn gweithio gyda’i gilydd i berfformio yn wyneb yr anhysbys.
Mae SGOR yn ffynnu ar gyfnewid creadigol byrfyfyr, lle mae gwahaniaethau yn cyd-adweithio, yn caniatáu ystod o leisiau amrywiol i wrthdaro a chynnau mewn amgylchiadau unigryw ac annisgwyl.
MOSH - ymunwch â ni ar y 9fed o Awst ar gyfer perfformiad byw gan gydweithfa perfformiad arbrofol SGOR
Yn tarddu o breswyliad chwe wythnos yn g39, mae’r grŵp yn cyflwyno gwaith wedi hysbysu gan gitarau di-baid a phyllau cylch Nu-Metal, wedi ei ddatblygu trwy ddefnyddio ymarferion cydweithredol, symudiad a sain.
Dewch i foshio gyda ni.
Mae’r gyfres hwn o ddigwyddiadau SGOR yn cynnwys:
Beth Greenhalgh
Tess Woof
Tim Martin - Jones
Vivian Ross - Smith
Tessa Waite
Abi Hubbard
Penny Hallis
Rob Oros
Iona Lewis
Lewis Prosser
Pete Evans
plus special guests
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants