Ewch am dro o amgylch galerïau’r Rhath, mewn cydweithrediad gyda Ffotogallery, madeinroath, TEN., Albany Gallery, Cardiff M.A.D.E, Celf Gallery ac Oriel Makers, ‘dyn ni’n cynnal penwythnos o ddigwyddiadau ac achlysuron cymdeithasol.
Dydd Gwener 22ain Tachwedd
UNITe 2024 - Stiwdios Agored, 17.00-20.00
Amy Treharne, Sophie Mak-Schram + Sophie Lindsey, Esyllt Lewis, Rhys Slade Jones & Jess Horsley
Ymunwch â ni ar ddechrau penwythnos “Roath Gallery Weekend”, byddwn yn dangos gwaith gan chwe artist, sydd wedi bod gyda ni am y ddeng wythnos diwethaf. Maent wedi bod yn gweithio mewn stiwdios yn g39 yn datblygu gwaith newydd, yn ymchwilio ac yn arbrofi. Mae croeso i bawb ddod i weld y gwaith maent wedi bod yn gwneud.
Bydd bar gyda diodydd a snacs ar werth.
Dydd Sadwrn 23ain Tachwedd
UNITe 2024 - Stiwdios Agored, 11.00-17.00
Neighbourhood Crowd X ArtHole, 11.00-13.00
Mae Neighbourhood Crowd yn gyfres o ddigwyddiadau am ddim ddydd Sadwrn olaf bob mis. Dewch draw i gael bwyd cynnes ac i ddysgu mwy am ArtHole, sef gofod adwerthol gyda ffocws ar ddarlunio a chanolbwynt cymunedol yng Nghaerdydd.
UNITe at night, 18.00 - 21.00
Wrth i lanw gaeaf agosáu a’n rhaglen ddarfod am y flwyddyn hoffwn ni eich gwahodd chi i ymuno â ni i ddathlu. Dathliad i werthfawrogi’r holl artistiaid, ymwelwyr, ffrindiau, teuluoedd, cymdogion, cyllidwyr, parcwyr, a chefnogwyr sydd wedi cyfrannu i wneud g39 yn le gwych i fod eleni. Byddwn ar agor yn hwyr, gyda bar, cerddoriaeth a snacs.
Dydd Sadwrn 24ain Tachwedd
UNITe 2024 - Stiwdios Agored, 11.00-14.00

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants