Sgwrs:
Larry Achiampong

3 Hydref 2024

Join us for the talk, have a drink, see UNITe 2024, have a chat. Thursday 3rd October, 6pm - 8pm. Free. Everyone is invited! // Ymunwch â ni ar gyfer sgwrs i gael diod, gweld UNITe 2024, a chael sgwrs. Am ddim. Mae croeso i bawb!

Bydd Larry Achiampong yn treulio’r diwrnod gyda ni, yn gweithio gydag artistiaid UNITe ac yn myfyrio ar ei waith mewn sgwrs gyhoeddus anffurfiol gyda’r nos.

Dydd Iau 3rd Hydref, 6pm-8pm

Mae ei ffilm A Letter yn rhan o restr fer Gwobr Jarman eleni. Ynddi cawn hanes dyn yn wynebu cael ei anfon i ysbyty’r meddwl. Mae'r naratif sy'n datblygu yn chwalu amser i ddatgelu effaith hanes, mewnfudo a gwahaniad daearyddol ar ddau frawd sy'n byw ym Mhrydain a Ghana.

Mae prosiectau Achiampong yn defnyddio ffilm, delweddau llonydd, archifau clywedol a gweledol, perfformiadau byw, gwrthrychau, sain a dyluniadau gêm i archwilio syniadau ynghylch hunaniaethau dosbarth, rhywedd, trawsddiwylliannol a digidol.

Gyda gweithiau sy’n archwilio ei dreftadaeth gymunol a phersonol – yn arbennig, y croestoriad rhwng diwylliant poblogaidd a gweddillion trefedigaethu – mae Achiampong yn cloddio’n ddwfn drwy gromgelloedd hanes. Mae’r ymchwiliadau hyn yn archwilio lluniadau o’r ‘hunan’ trwy’r gweithgaredd o blethu deunyddiau clywadwy a gweledol archifau personol a rhyngbersonol, gan gynnig safbwyntiau lluosog sy’n datgelu’r anghydraddoldebau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn y gymdeithas gyfoes.

Mae’r digwyddiad am ddim a bydd lluniaeth a chyfle i weld beth sydd wedi bod yn digwydd yn UNITe 2024 hyd yn hyn.

Programme