Ayo Akingbade - Andrew Black - Julianknxx -
Sophie Koko Gate - Karen Russo - Rehana Zaman
![Julianknxx, Black Corporeal [Breathing by Numbers], 2022 Julianknxx, Black Corporeal [Breathing by Numbers], 2022](/images/detail/7859.jpg)
10/11/2023, 11:00-17:00
Trwy'r dydd mewn sinema g39 //
All day screening in the g39 Cinema
Yn cynnwys gwaith gan y chwe artist sydd ar restr fer Gwobr Jarman Film London 2023, bydd y daith yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd weld amrywiaeth anhygoel o weithiau sy’n gwthio’r ffiniau.
Tra bod ffilmiau Andrew Black yn herio naratifau confensiynol o amgylch cefn gwlad Prydain, mae animeiddiadau digrifwch tywyll Sophie Koko Gate yn gosod straeon o hiraeth a chwant rhwystredig mewn bydoedd breuddwydiol. Mae Julianknxx yn amlygu’r argyfyngau rhyngberthynol o anghydraddoldeb a llygredd aer, tra bod Ayo Akingbade yn llunio stori serch â’i lleoliad yn Llundain mewn ffilm naratif sy’n dilyn diwrnod ym mywyd merch yn ei harddegau o Hackney. Mae Rehana Zaman yn archwilio addewidion cyfaddawdol cryptoarian a phosibiliadau dulliau cyfnewid amgen, tra bod Karen Russo yn cyflwyno archwiliad sinematig o gartref cerfiedig rhyfeddol y pensaer gweledigaethol Karl Junker.
O fydoedd animeiddiedig swreal i archwiliadau ffilmig o dirwedd a chymuned, mae Gwobr Jarman Film London 2023 yn arddangos brys, creadigrwydd a digrifwch dulliau newydd cyffrous o ymdrin â’r ddelwedd symudol.
Boed mewn bloc o fflatiau cyngor yn Hackney neu ffatri Guinness yn Nigeria, mae ffilmiau agos atoch a chwareus Ayo Akingbade yn adlewyrchu sut y mae lle yn gallu dylanwadu ar ymdeimlad personol o hunaniaeth. Ar y llaw arall, mae Andrew Black yn cydweithio’n agos â chymunedau lleol i ddadorchuddio hanesion gwleidyddol cymhleth sy’n cuddio o dan gwrlid cefn gwlad Prydain.
Mae’r animeiddiwr arbrofol Sophie Koko Gate yn trawsnewid ing a chwantau cyfarwydd yn straeon breuddwydiol a bydoedd seicedelig, gyda gwraig ryfedd sydd wedi datblygu blas ar wlithod fel cariadon, a ffilm ramant gwyliau ryfeddol a wnaed yn ystod y cyfnod clo. Mae gwaith Karen Russo yn canolbwyntio ar gymeriadau ymylol, adeiladau caddugol ac eiliadau anghofiedig o’r 20fed ganrif, gan ganiatáu inni fyfyrio ar y strwythurau pŵer gwleidyddol, crefyddol a diwylliannol sy’n llywio ein dealltwriaeth o hanes.
Ayo Akingbade, Jitterbug (2022), 24'
Julianknxx, Black Corporeal [Breathing by Numbers] 2022 16'
Andrew Black, Revenge Fantasy (2019) 13'
sophie Koko Gate, Hotel Kalura, (2021) 5'
Karen Russo, Junkerhaus (2021) 7'
Rehana Zaman, Alternative Economies (2021) 28'
Mae empathi a chymuned wrth wraidd ymarfer Rehana Zaman. Wedi’i ddatblygu ar y cyd â grŵp o fenywod yr effeithiwyd arnynt gan Bolisi Amgylchedd Gelyniaethus Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r system garchardai, mae gwaith diweddar Zaman yn cyfleu dyfalbarhad cariad a chydsafiad trwy brofiadau o drawma. Yn ei ymarfer, mae Julianknxx yn archwilio realiti lluosog bywydau du, boed yn rhaglen ddogfen farddonol sy’n amlygu effaith anghymesur llygredd aer ar ddinasyddion y dosbarth gweithiol yn Llundain, neu’n ddychweliad sinematig i fan geni’r artist o Freetown yn Sierra Leone.
Mae’r artistiaid sydd ar restr fer Gwobr Jarman Film London 2023 yn creu gwaith a nodweddir gan ymdeimlad o wydnwch a llawenydd, gan greu ieithoedd gweledol newydd a safbwyntiau ffres ar bynciau sy’n aml yn anodd a chymhleth.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants