
Rydym yn falch iawn o groesawu Andrew Black am sgwrs yn dilyn dangosiadau ei ffilm o dan nawdd Gwobr Jarman. Ymunwch â ni i gael cipolwg hamddenol ar ei waith ac i glywed mwy am y ffilm Revenge Fantasy (2019) sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Jarman.
10/11/2023, 18.00 – 20.00
Book here //
archebwch yma >>>
Artist a gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi’i leoli yn yr Alban yw Andrew Black. Mae ei waith yn archwilio straeon cudd ac aneglur a geir o fewn tirwedd Prydain, gan greu portreadau o leoedd y mae ganddo ymlyniad bywgraffyddol â nhw. Mae ffilmiau Black yn edrych ar sut mae seilweithiau ac ideolegau cyfalafiaeth, militariaeth a chenedlaetholdeb wedi llunio’r wlad a’i thrigolion. Yn aml yn gweithio’n agos gyda phobl leol, mae ei waith yn dangos ffyrdd y gall cymunedau ddychmygu a chreu ffyrdd amgen a gwrthwynebol o fod.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants