Dafydd Williams
Gan weithio’n bennaf gyda chyfryngau sy’n seiliedig ar lensys, mae dull Williams hefyd yn defnyddio gosodiadau a phaentio i archwilio theori a ffordd o fyw gwiar, gan ymestyn o’r safbwyntiau hoyw lleol i’r rhai rhyngwladol. Fel artist Cymreig cwiar, mae ganddo ddiddordeb yn y ddeinameg rhwng celf a gweithredaeth wrth godi ymwybyddiaeth o wahaniaethu hanesyddol a chyfoes tuag at y gymuned LHDTC+, herio heteronormadedd, a gweithio tuag at newid cymdeithasol cadarnhaol.
G39 1-2-1 Sesiynau
Ar 31/08/23-02/09/23, byddwn yn cynnal sesiynau un-i-un gydag artistiaid. Sgyrsiau anffurfiol 45 munud yw’r rhain lle gallwn siarad am eich arfer presennol neu bethau penodol yr ydych yn gweithio arnynt, neu gallwn ganolbwyntio ar un agwedd benodol fel codi arian neu ysgrifennu am eich gwaith. Rydym am ddefnyddio’r rhain i gysylltu ag artistiaid sy’n gweithio yng Nghymru. Gallwn gynnal y rhain ar Zoom neu wyneb yn wyneb yn g39. Rhowch wybod i ni os byddai'n well gennych gael 1-2-1 gydag Anthony Shapland, Sam Hasler neu Caitlin Davies.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants