Ayo Akingbade’s Jitterbug marks the rising London filmmaker`s thirteenth short film and continues her exploration into the city’s rapidly changing landscape. // Mae Jitterbug gan Ayo Akingbade yn nodi trydedd ffilm fer ar ddeg y gwneuthurwr ffilmiau addawol o Lundain, ac mae’n parhau â’i harchwiliad i dirwedd y ddinas sy’n prysur newid.
Join us for a drink beforehand at 18.00, screening starts 18.30. // Ymunwch â ni am ddiod ymlaen llaw am 18.00, dangosiad yn dechrau 18.30.
Wedi’i lleoli yn Hackney ar adeg o foneddigeiddio rhemp, mae Jitterbug yn rhoi portread llawn enaid o bobl ifanc yn eu harddegau yn dod i oed ar yr union adeg pan fydd eu cymuned yn cael ei rhwygo’n ddarnau gan rymoedd y tu hwnt i’w rheolaeth. Mae’r ffilm yn croniclo diwrnod ym mywyd y fyfyrwraig ddeunaw oed, Afeni Omolade, a chwaraeir gan Amara Okereke, sy’n byw gyda’i rhieni a’i brawd iau mewn bloc cyngor. Mae Afeni ar fin gadael ei chartref i wireddu ei breuddwyd o astudio Hanes Celf ym Mhrifysgol Caergrawnt pan ddaw newyddion annisgwyl yn sydyn.
Mae Jitterbug gan Ayo Akingbade yn nodi trydedd ffilm fer ar ddeg y gwneuthurwr ffilmiau addawol o Lundain, ac mae’n parhau â’i harchwiliad i dirwedd y ddinas sy’n prysur newid.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants