Mae Priyesh Mistry yn Guradur Cyswllt Prosiectau Modern a Chyfoes yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain, lle mae’n gweithio tuag at gyflwyno rhaglen uchelgeisiol i integreiddio celf gyfoes o fewn cyd-destun yr amgueddfa a’i chasgliadau hanesyddol
Mae’n rheoli’r rhaglenni Artistiaid Preswyl a chomisiynau cyfoes.
Mae’r prosiectau diweddaraf yn cynnwys Ali Cherri: ‘If you prick us, do we not bleed?’, ‘Dance to the Music of Our Time’: Arddangosfa Fyw gyda Hetain Patel, Florence Peake, Zadie Xa a Benito Mayor Vallejo, Rosalind Nashashibi: ‘An Overflow of Passion and Sentiment’ a phrosiectau sydd ar y gweill gyda Nalini Malani a Céline Condorelli.
Mae Priyesh yn aelod o Bwyllgor Curadurol y Gymdeithas Hanes Celf, yn eistedd ar y Grŵp Comisiynu Pedwerydd Plinth sy’n cael ei arwain gan swyddfa Maer Llundain, ac yn ymddiriedolwr o Studio Voltaire.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants