Mauve, Jim and John is part of The Artangel Collection. // Mae ‘Mauve, Jim and John’ yn rhan o The Artangel Collection.

Mae ‘Mauve, Jim and John’ yn rhan o The Artangel Collection. Fe’i cyflwynwyd i ddechrau ar-lein ac mae’n rhan o gyfres o weithiau sydd newydd eu comisiynu ar gyfer Afterness.
Man cychwyn Paul Maheke i ‘Mauve, Jim and John’ oedd ym maes hiraeth, llên gwerin, a chorff mythau a chwedlau Orford Ness, llain o dir gwyntog yn ymestyn sawl milltir ar hyd arfordir Suffolk sydd wedi’i warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel gwarchodfa natur ers 1995. Mae’r Ness yn safle profi milwrol wedi’i ddatgomisiynu sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘ynys y cyfrinachau’. Cafodd Maheke ei ddenu at stori honiad o weld peth hedegog anhysbys yng Nghoedwig Rendlesham yn ystod Rhagfyr 1980, a oedd ar y pryd yn gysylltiedig â gorsaf radar dros y gorwel Cobra Mist ar Orford Ness.
Gan arbrofi gyda choreograffi safle-benodol, mae ‘Mauve, Jim and John’ yn creu deialog weledol rhwng ymwthiad estron o’r awyr a gorffennol milwrol y safle. Mae taith y llong ofod o Goedwig Rendlesham i’r Ness yn cael ei hailadrodd trwy symudiad dau gorff gwrywaidd, gan gyfeirio at John Burroughs a Jim Penniston; dau aelod o’r awyrlu a wnaeth adrodd eu bod wedi gweld rhywbeth rhyfedd yn yr awyr. Bu Maheke yn gweithio’n agos gyda’r dawnsiwr a choreograffydd Robert Bridger i ddatblygu sgôr newydd, lle mae’r golygfeydd yn Rendlesham a thirwedd gythryblus y Ness yn gefndir i ramant rhyfedd y ffilm.
Roedd ‘Mauve, Jim and John’ yn rhan o gyfres o weithiau newydd eu comisiynu ar gyfer Afterness, a ysbrydolwyd gan Orford Ness.
Paul Maheke, ‘Mauve, Jim and John’, 2021
Wedi’i gomisiynu a’i gynhyrchu gan Artangel
Trwy garedigrwydd The Artangel Collection, Galerie Sultana a’r Goodman Gallery
Mae ‘Mauve, Jim and John’ yn rhan o The Artangel Collection, sef menter i ddod â gwaith ffilm a fideo rhagorol, a gomisiynwyd ac a gynhyrchwyd gan Artangel, i orielau ac amgueddfeydd ar draws y Deyrnas Unedig. Datblygwyd The Artangel Collection mewn partneriaeth â Tate, ac mae’n cael ei gefnogi’n hael gan Sefydliad Esmée Fairbairn a Sefydliad Foyle ac mae’n defnyddio cyllid cyhoeddus gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants