14.00-16.00
‘Mae seicoddaearyddiaeth yn disgrifio’r effaith o leoliad daearyddol ar
emosiynau ac ymddygiad unigolion. Yn nodweddiadol, byddai’r arfer o
seicoddaearyddiaeth yn golygu symud drwy ofodau wrth ddarlunio.
Fodd bynnag, fel defnyddiwr cadair olwyn llaw, mae symud o gwmpas
yn golygu fy mod i’n defnyddio fy nwylo yn barod felly nid yw’r ffurf hyn o
seicoddearyddiaeth yn hygyrch. Datblygais seicoddaearyddiaeth wedi ei
leoli fel ymateb i hyn, sef addasiad o’r broses sy’n ffocysu ar un gofod ac
un ennyd penodol.’
Yn y gweithdy hwn, bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i ymateb i’r
cofforoldeb a’r teimlad mae’r arddangosfa yn ei hysgogi, a’r thema
Aildanio ei hun; beth ydyw i ailgynnau, i ail-oleuo.
Bydd Delphi yn arwain y cyfranogwyr drwy’r broses o gymryd teimlad a’i
gyfieithu i mewn i ddarlun, gan symud drwy bob synnwyr un ar y tro.
Ar gyfer cyfranogwyr sydd yn fyddar, â nam ar y clyw, dall a/neu â nam
ar y golwg, gallant ddewis treulio mwy o amser ar arogl, cyffyrddiad neu
blas, neu ddefnyddio amser wedi ei neilltuo ar gyfer sain a golwg i
gynrychioli sut mae bod yn fyddar, â nam ar y clyw, dall a/neu â nam ar
y golwg yn effeithio eu profiad Aildanio.
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants