Gweithdy:
Gwneud cylchgrawn gyda Delphi Campbell

26 Tachwedd 2022

14.00 - 16.00

Bydd Delphi yn arwain y cyfranogwyr drwy wahanol ffyrdd efallai hoffent
ymateb i’r thema Aildanio gan greu zine eu hunain – gludlunio gyda
deunydd o’r arddangosfa, cylchgronau a thoriadau eraill, darlunio ac
ysgrifennu gan edrych ar sut mae modd cyfuno'r rhain yn effeithiol, neu
eu defnyddio yn unigol. Byddwn hefyd yn edrych ar y gwahanol ffyrdd y
gellir archwilio naratif drwy’r cyfryngau hyn.

Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i ffurfio ymatebion eu hunain i’r
thema Aildanio. Bydd Delphi yn cyflwyno hanes byr y zine a rhai o’r
amcanion o’u defnydd, gan hefyd gyflwyno esiamplau fel bod y
cyfranogwyr yn cael y cyfle i weld a chael syniad o’r hyn hoffent greu.

    Programme