Oriel:
Kathryn Ashill - Principal Boy

17 Medi - 29 Hydref 2022

Kath Ashill Ft. Len Blanco & Megan Winstone

“Mae dyddiau slapio fy nghlun wedi dod i ben…”

Yn hiraethu am ieuenctid, a thranc Prif Fachgen y pantomeim, mae’r gwaith newydd hwn gan Ashill hefyd yn dathlu ac yn tynnu sylw at gwestiynau ynghylch dosbarth cymdeithasol, bod yn gwiar, anghydffurfiaeth rhywedd – ac atyniad parhaus colur y theatr amatur.

Mae g39 yn falch iawn o weithio gydag Ashill ar y prosiect hwn sy'n ymgysylltu â hylifedd rhywedd a strwythurau dosbarth cymdeithasol. Cynhyrchwyd yr arddangosfa unigolyn hon trwy gydweithrediad â Common Wealth, Llanrhymni yn ogystal â Len Blanco a Megan Winstone.

Mae Ashill yn ddoniol ac yn chwareus ac yn defnyddio estheteg gwneud pethau'ch hun sy'n rhan o fyd dramâu amatur i greu'r gwisgoedd a'r setiau y mae'n perfformio ynddynt. Mae gofod yr oriel wedi'i drawsnewid i Skull Island a gallwn weld awyr y nos ynghyd â llenni theatr. Mae’r gwaith hwn gan Ashill yn priodi delweddaeth y pantomeim, y Prif Fachgen a Peter Pan fel ffordd o adennill gofod ac ailgysylltu â’i ieuenctid.

Dechreuodd traddodiad hirsefydlog y Prif Fachgen mewn pantomeim fel ffordd o beidio â thramgwyddo deddfau llym yn ystod cyfnod cynnar y theatr a oedd yn gwahardd plant a pherfformwyr benywaidd rhag actio. Roedd merched yn chwarae rhan y prif gymeriad gwrywaidd trwy gymryd yr hyn a elwid yn gyffredin yn Rôl Llodrau – roedd hyn yn aml yn cael ei chydbwyso gan ddynion wedyn yn gwisgo drag ar gyfer rôl yr hen ferch. Roedd metaffor fel slapio'r glun – y weithred gorfforol a rhywiol o roi pwyslais ar eiriau neu emosiwn trwy fwrw'ch clun – yn arwydd o'r cyfnewid hwn.

Er ei fod yn llai cyffredin mewn pantomeim modern, mae'n dal i fod yn draddodiad yn rôl Peter Pan. Mae Pan yn gymeriad sy'n bodoli rhwng dau fyd. Disgrifiodd JM Barrie ef fel rhywun a oedd rhywle rhwng bachgen ac aderyn, yn gwrthod tyfu i fyny. Yn yr arddangosfa hon, dyna'n union mae Ashill yn ei wneud, gan freuddwydio am fod yn un o'r bechgyn coll.

    Bu’r artistiaid canlynol yn rhan o arddangosfa:
  • Kath Ashill

Programme