madeinroath
Arddangosfa Agored 2022

2 - 5 Mawrth 2022

MiR warmly invites you to submit work for this year’s Open Exhibition, which, after a two year hiatus, we are delighted to announce will be at g39 in March 2022. Mae MiR yn eich gwahodd i gyflwyno gwaith ar gyfer yr Arddangosfa Agored ym mis Mawrth 2022, ac yn dilyn seibiant o ddwy flynedd rydym yn hynod falch o gyhoeddi mai g39 bydd y lleoliad eleni.

Eto eleni, does dim ffi i gyflwyno’ch gwaith, dim cyfyngiad oedran, gallu na phrofiad, a bydd pob gwaith sy’n unol a’r criteria isod yn cael ei arddangos. Mae’r agwedd yma, sef galwad gwbl agored, yn un rydym yn falch o’i arloesi ers 2009. Mae bob tro yn cyflwyno arddangosfa ddiddorol, gynhwysol ac eclectig ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i weld gwaith newydd eleni.

Rhestr:
A yw’r gwaith yn 2D ac oes modd ei hongian ar wal?

A yw'r gwaith yn ddim mwy na 100cm x 100cm hyd a lled a dyfnder o ddim mwy na 30cm? (neu 39.5 modfedd x 39.5 modfedd x 12 modfedd imperial)

Ydych chi’n credu bod y gwaith yn addas ar gyfer cynulleidfa ddiwylliannol/oedran amrywiol? *

Oes mae ‘ydi/ydw’ yw’r ateb i’r tri chwestiwn uchod, dyma’r manylion sut i gyflwyno’ch gwaith:

AR y 17eg a’r 19eg Chwefror rhwng canol dydd a 7yh cyflwynwch eich gwaith i g39, Oxford Street, Caerdydd CF24 3RF

Os nad ydych yn gallu cyflwyno eich gwaith am resymau symudedd neu resymau eraill yn ymwneud â mynediad cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost/rhif ffôn isod a threfnwn i gasglu’r gwaith ar eich cyfer. Byddwch yn derbyn derbynneb am eich gwaith. Mae’r dyddiad cau'r un fath.

Programme