11.00-17.00. Screenings on the hour, Dur. 43 minutes
Naratif ffuglennol, troellog, gyda thrac sain polyffonig yw Temporary Commons, sy'n plethu plymio amheus, cymdogion cythryblus, tywydd anrhagweladwy, chwerthin mewn tun, a landlord busneslyd â'i gilydd. Mewn cyfres o olygfeydd wedi eu gosod o fewn waliau tŷ rhent teras, cawn adroddiad llawn tensiwn gan y prif gymeriad wrth ddisgrifio'r gollyngiadau cudd, adeiladwaith ansad, a'i ymdrechion ofer ei hun ar geisio cadw rheolaeth a chysylltiad. Mae gollyngiadau dŵr a sŵn yn cyflwyno eiliadau byr o gydberthyn rhwng y wal gydrannol … y cytgord a’r anghytgord, y cysur a’r cosi, y cyfrifoldeb cyfnewidiol ac a rennir wrth fyw ochr yn ochr ag eraill.
Wrth iddo wichian a straenio dan bwysau, fe ddaw'r tŷ yn gymeriad ynddo'i hun: yn clustfeinio ac eto'n mynnu cael ei glywed ar yr un pryd wrth iddo suddo'n araf i mewn i'r tir anwastad. Cynhyrchwyd y brif sgôr ar y cyd â'r cerddor ac artist Emma Daman Thomas.
Comisiynwyd Temporary Commons yn wreiddiol gan Jerwood Arts ar gyfer Jerwood Solo Presentations 2021. Cafodd y darn gwreiddiol ei gyflwyno fel gosodiad sŵn amlsianel, a chafodd ei ailgymysgu fel fersiwn stereo ar gyfer darlledu.
Credydau:
Ysgrifennwyd ac adroddwyd gan Freya Dooley
Cerddoriaeth gan Emma Daman Thomas a Freya Dooley
Lleisiau gan Emma Daman Thomas
Adroddiant ychwanegol gan Rebecca Knowles
Peirianneg cymysgu gan Freya Dooley
Gyda diolch i dîm Jerwood Arts a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Credyd ffotograffiaeth: Freya Dooley, comisiynwyd Temporary Commons gan Jerwood Arts ar gyfer Jerwood Solo Presentations 2021, ffotograff gan Anna Arca
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants