Gweithdy:
Nicolaas van de Lande
10/09/21

10 Medi 2021

Artist-led Shape-shifting

Nicolaas Van der Lande, a being able to change its form, 2021
Nicolaas Van der Lande, a being able to change its form, 2021

Mae’r artist o’r Iseldiroedd Nicolaas van de Lande, un o’r arddangoswyr yn arddangosfa SurveyII yn croesawu artistiaid, myfyrwyr a’r rhai hynny sydd â diddordeb ymuno mewn sesiwn prynhawn o greu.  Bydd y cyfranogwyr yn cyd-greu gwaith celf o dan arweiniad yr artist lle byddant yn dysgu sut i feistroli’r dull o fflocio. Mae cymryd rhan am ddim a bydd cyfle i’r cyfranogwyr gadw eitem wedi ei fflocio.

Places on this workshop are limited to 12 //
Mae llefydd ar y gweithdy wedi’u cyfyngu i 12.

Ddim yn addas i blant. //
Not suitable for children

Brunch and lunch, drinks and chat provided. //
Darperir brecinio, cinio, diodydd a sgwrs



Mae Nicolaas van de Lande yn artist sy'n gweithio gyda gosodiadau, cerfluniau a ffotograffiaeth. Mae ei osodiadau wedi'u gwneud o gerfluniau a gwrthrychau mae wedi eu darganfod sy'n ystumio tuag at y syniad ontolegol fod popeth yn blastig – gan olygu nad yw ffurfiau digyfnewid yn bodoli.

Ganwyd Nicolaas yn Breda ac mae wedi'i leoli yn Llundain ac Amsterdam. Astudiodd yn Gerrit Rietveld Art Academy, yr Iseldiroedd (2016), a gwnaeth MA mewn ymarfer celf gyfoes yn y Coleg Celf Brenhinol, DU (2019). Mae arddangosfeydd unigol yn cynnwys Sleazy Decorations: Party Time in Croyden, Croyden Arts Store (2018); a Breehornstraat 113, sioe unigol, prosiect hunangychwynnol mewn cyfadeilad tai cymdeithasol, Amsterdam (2016/17). Mae arddangosfeydd grŵp yn cynnwys sioe raddio y Coleg Celf Brenhinol (2019); Ambiguity, No Studio, Amsterdam (2019); Textures of Taste, Paleis van Mieris, Amsterdam (2016); Dirty Daisies, Art The Hague, yr Hâg (2016).

More about Nicolaas // Mwy am Nicolaas

Booking is essential>>
Archebu o flaen llaw
yn hanfodol >>

    • Nicolaas Van der Lande, a being able to change its form, 2021

    Programme