
Ymunwch a Heather Phillipson a Holly Davey ar gyfer trafodaeth hamddenol ar-lein am waith, bywyd a’r llefydd rydym yn darganfod ein hunain.
Ymunodd Heather ag Holly yn ystod ei harddangosfa yn g39, The Conversation yn 2017 mewn sgwrs.. Gyda chymaint o newidiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn y byd yn ogystal gyda’u hymarferiadau ei hunain, rydym yn ailymweld a’r ‘sgwrs’ cyfredol hon rhwng y ddwy.
20/08/21, 16.00-18.00
To book a place >>>
Cliciwch yma i archebu >>>
Mae Heather Phillipson yn gweithio gyda fideo, cerflunwaith, prosiectau gwe, cerddoriaeth, darlunio a barddoniaeth. Mae RUPTURE NO 1: blowtorching the bitten peach sef ei chomisiwn cerfluniol a chlywedol anferth ar gyfer y Duveens Galleries yn Tate Britain, yn rhedeg tan Ionawr 2022 ac mae THE END, ei cherflun ar gyfer y Fourth Plinth, Sgwâr Trafalgar yno tan Orffennaf 2022. Mae comisiynau diweddar yn cynnwys collages sain ar gyfer Art on the Underground, Radio 3, 2020, gosodiadau ar gyfer y Shanghai Biennial 2021, Sharjah Biennial 14 a’r Martin Gropius Bau, Berlin, y ddau yn 2019, a sioe unigol yn BALTIC Centre for Contemporary Art, Gateshead yn 2018.
Mae arfer Holly Davey yn seiliedig ar lens gan weithio'n agos gyda syniadau ynghylch y cof, lleoliad a chasgliadau o'r archif sydd yn bennaf ar-lein ac wedi'u lleoli mewn llyfrgell / amgueddfa. Mae ganddi ddiddordeb mewn treftadaeth lleoliad neu gasgliad - yn arbennig ei hanes cymdeithasol a gollwyd neu a anghofiwyd ar y cyfan. Mae ganddi ddiddordeb mewn ymchwilio a datblygu syniadau sy'n archwilio'r cysyniadau o ffaith a ffuglen, gan gymylu'r ffiniau a gwneud i'r gynulleidfa gwestiynu beth sy'n real? Mae ei sioeau diweddar yn cynnwys A Script for an Archive yn Danielle Arnaud Gallery, Llundain a mwyaf diweddar yn Chapter, Caerdydd. Datblygwyd y sioe o waith ymchwil yn ystod ei hamser yn The British School at Rome yn 2019.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants