Simon Fenoulhet - Sut allaf geisio nawdd cyhoeddus?

14 Mai 2021

G39 artist Resources // Adnoddau artist g39

Simon Fenoulhet - How do I go Public? (Image: Alex Rich, Song For A Horn)
Simon Fenoulhet - How do I go Public? (Image: Alex Rich, Song For A Horn)

Yma yn g39 rydym yn coelio’n gryf mewn rhannu gwybodaeth fel ffordd o gyfnerthu’r gymuned.

Rydym yn hynod falch cael cyhoeddi cyfres newydd o Adnoddau Artist. Y llynedd fe gomisiynwyd 4 o artistiaid i gyfrannu at ein hadnoddau ar-lein. Fe ymatebwyd yr artistiaid gan gynnig adnoddau gydag ystod eang o destunau.

Simon Fenoulhet - Sut allaf geisio nawdd cyhoeddus?
Canllaw i weithio ar gomisiynau celf a phreswyliadau cyhoeddus

Cliciwch yma I weld yr adnodd>>

Mae'r adnodd hwn wedi'i lunio ar gyfer artistiaid er mwyn rhoi syniad i chi o sut y gallwch weithio yn llygad y cyhoedd drwy gomisiynau a phreswyliadau. Bydd yn eich helpu i nodi'ch cryfderau ac i weithio allan pa fath o brosiectau fyddai'n gweddu orau i chi.

Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng gweithio yn llygad y cyhoedd (h.y. gweithio yn unol â briff ar gyfer prosiect a ariennir yn gyhoeddus, fel preswyliad ar gyfer sefydliad cymunedol neu gomisiwn gan awdurdod lleol neu fusnes) a gweithio gyda churadur a chynulleidfaoedd yng nghyd-destun oriel neu stiwdio. Dylwch ragweld beth yw'r gwahaniaethau hyn, a ph'un a yw eich arfer yn gweddu i fod yn llygad y cyhoedd.

Artist yw Simon Fenoulhet sy'n chwarae gyda'n rhagdybiaethau o'r byd materol drwy ddefnyddio gwrthrychau pob dydd sydd â chanlyniadau annisgwyl. Astudiodd Simon Fenoulhet yng Ngholegau Celf Casnewydd a Chaerdydd. Ers hynny mae wedi gweithio ledled Cymru fel artist, addysgwr ac ymgynghorydd celf cyhoeddus, gan gynnwys cyfnod fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cywaith Cymru, Artworks Wales rhwng 1991 a 2002. Enillodd y Fedal Aur am Gelf Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2010 ac mae bellach yn gweithio'n llawrydd fel artist ac fel ymgynghorydd celf.

    • Simon Fenoulhet - How do I go Public? (Image: Alex Rich, Song For A Horn)

    Programme