Art Night 2021: Nothing Compares 2 U
Mae'n bleser gan g39 i fod yn rhan o bumed gyfres Art Night, Nothing Compares 2 U, sy'n cael ei chynnal rhwng 18 Mehefin ac 18 Gorffennaf 2021, drwy gefnogi hysbysfwrdd fel rhan o brosiect Guerrilla Girls, The Male Graze.
Bydd eu comisiwn cyhoeddus mwyaf yn y DU, The Male Graze, yn rhan o Art Night 2021. Mae'r comisiwn yn cynnwys gwefan, gig ar-lein a chyfres genedlaethol o hysbysfyrddau, gan gynnwys un yng Nghaerdydd, sy'n archwilio ymddygiad gwael yn hanesyddol a heddiw. Bydd y gwaith yn ymddangos yn Llundain, Eastbourne, Dundee, Birmingham, Glasgow, Leeds, Caerdydd, Warwick, Abertawe a mwy. Bydd yr hysbysfyrddau'n cael eu harddangos rhwng 18 Mehefin a 18 Gorffennaf ac mewn partneriaeth â chyfeillion Art Night Compton Verney, Dundee Contemporary Arts, Glasgow Women’s Library, g39, Oriel Gelf Glynn Vivian, Grand Union, The Tetley a Towner Eastbourne. Bydd Art Night hefyd yn cyflwyno'r comisiwn hwn ar ddau safle yn Llundain, sef Shoreditch a Phont Llundain.
Yn trawsnewid mannau cyhoeddus eiconig ac annisgwyl yn Llundain ers 2016, bydd Art Night 2021 - wedi'i guradu gan Helen Nisbet (gyda'r Louise Hobson wych fel curadur cyfrannog) - yn ymestyn 1000+ o filltiroedd ar draws yr Alban, Cymru a Lloegr, o'r gogledd i'r de ac o'r dwyrain i'r gorllewin, a hyd yn oed ymhellach yn ddigidol ac yn ffisegol er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol. Am y tro cyntaf, bydd Art Night hefyd yn cael ei gynnal am fis, gan alluogi cynulleidfaoedd i gael cyfle i gael mynediad at gomisiynau, perfformiadau ac ymyriadau mewn lleoliadau gwledig, trefi a dinasoedd, yn ogystal â'u cartrefi.
Nid yn unig hyn, ond i fyny'r ffordd bydd ein cyfeillion yn Peak yn sgrinio rhaglen o ffilmiau Alberta Whittle yng ngorsaf drenau'r Fenni, Cymru mewn partneriaeth â KLA ART wedi'i chreu gan 32° East yn Wganda.
“Mae'n bleser cydweithio gydag Art Night a Thrafnidiaeth i Gymru i gyflwyno gwaith ffilm gan yr artist Barbadaidd-Albanaidd, Alberta Whittle ar Blatfform 2, mannau prosiect newydd yng ngorsaf drenau'r Fenni a'r gororau.” Melissa Appleton, Cyfarwyddwr Creadigol, Peak
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants