Emanuel Almborg / Paul Eastwood / Nooshin Farhid James Moore / Paula Morison / Jessica Warboys

'Rumble-strip' yw’r llinell o baent trumog ar ymyl traffordd, a’i diben yw rhybuddio gyrwyr o berygl, i ddihuno gyrwyr cysglyd ac i atal damweiniau. Mae'n rhybudd, yn sŵn, yn wahaniaeth sy’n tynnu sylw at wyriad, a newid mewn cyfeiriad.
Mae pob artist yn y sioe ac yn y rhaglen gysylltiedig yn creu gwaith sy'n bodoli yn y foment ansicr hon o newid. Mae Emanuel Almborg wedi creu cyfochredd rhwng dau bwynt gwahanol mewn hanes a lleoliad - gan ddogfennu prosiect theatr ieuenctid sy'n ymwneud â Therfysgoedd Beca yng Nghymru a'r terfysgoedd yn Llundain yn 2011, er mwyn olrhain patrymau mewn gormes a gwrthryfel. Gwnaeth Nooshin Farhid, gan weithio gyda Paul Eachus, greu ffilm yn seiliedig ar strwythur ffilm arall sy'n dilyn bwled yn hedfan i lawr stryd, gan chwilio am ei fan taro, rhywle rhwng cael ei danio a chyrraedd ei darged. Nid golygfa o'r gorffennol na’r presennol mohoni. Mae'n haen o'r ddau, mae'n bresennol ansicr ac yn ddynwarediad. Disgrifia James Moore ei baentiadau fel 'lefelau o gêm nad yw'n bodoli'. Maent yn ceisio cyfleu rhywbeth diriaethol, sydd wedi datblygu o obsesiwn ein diwylliant â’r dynwarediadau a'r ffuglenni hyn.
Mae'r ofn o gael ei hanghofio wedi rhoi min ar waith Paula Morison. Dyma gatalog wedi’i archifo o drychinebau naturiol sy’n cyfrif yn ôl ond hefyd yn cyfrif ymlaen. Yn hytrach na brasgamu tua'r terfyn, mae hwn yn ffocws ar y man canol, ble mae diwrnodau sy'n dal i ddod yn fwy niferus na'r rhai sydd wedi bod. Mae Paul Eastwood yn defnyddio fideo, ysgrifen a lluniau fel ffordd o ddod â phethau’n fyw. Mae'n edrych ar waith celf ac yn ei fframio fel cynhyrchiad cymdeithasol a dull o adrodd straeon diwyllianol. Perfformia gyda'r gwrthrychau ac yn eu plith, er mwyn actio ystyr posibl eu naratif a’u swyddogaethau. Mae ei ddiddordeb mewn tameidiau wedi eu dadleoli - o iaith, arteffactau a diwylliant, a sut maent wedi dod i olygu pethau newydd. Yn ei ffilm Hill of Dreams 2016, mae Jessica Warboys yn cyfeirio at lyfr yr awdur ffantasi o Gymru, Arthur Machen o'r un enw, sy'n rhannu ei atgofion o gefn gwlad Gwent, lle ganwyd Warboys ganrif yn ddiweddarach. Mae trawsnewidiad golygedig rhwng tirweddau hynafol a gwrthrychau cyfoes sy'n ymddangos ac yn diflannu, yn cynnig cyfres o batrymau i ni eu dehongli, neu dric consuriwr i ni ei ystyried.

Copyright © g39 2025 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants