Jumble

29 Mehefin - 20 Gorffennaf 2002

<b>Edward Adam</b>
Edward Adam

Mae Jumble yn arddangosfa o artistiaid sy’n cymryd cip ar syniadau o gymuned, traddodiadau a defodau ym Mhrydain yn sgil y jiwbilî. Mae’r sioe yn archwilio gweddillion Prydain an-Unedig, gwlad sy’n torri o dan straen un fflag, ac mae’n edrych ar gysyniadau o gymuned a thraddodiad sy’n rhwygo, ac hefyd sy’n cryfhau, y genedl. Ym 1981 fe ddywedwyd nad oes yna ddim byd fel achlysur brehinol er mwyn uno’r genedl. Ond erbyn hyn, mae pethau wedi newid. Doedd dim fflagiau’n chwifio, na chacenau wedi‘u haddurno gyda baneri, nac ychwaith torfeydd yn bwyta brechdanau – dim byd fel yr atgof egwan sydd gennym o 1977.

Mae gan waith Catrin James yr ymdeimlad yma o rywbeth a ddiflanodd amser maith yn ôl. Cymysgir peintiadau o dirlun Abertawe llawn adeiladau aml-lawr gyda delweddau o’r jiwbilî diwethaf. Cystadlir slogennau sgribledig o 1977 gyda gweddillion jac yr undeb. Roedd Jiwbilî 2002 wedi ei lliwio’n gyfangwbwl gan hiraeth, wedi ei hamgylchynu gan faneri jingoistiaeth, rhywbeth a drawodd nodyn gwag yng Nhymru, ond yn y peintiadau yma fe ymddengys y gwladgarwch fel y petai’n perthyn i’r gorffennol. Lleisiau ddoe yw sgribliau’r anarchwyr hyd yn oed.

Cwyd gyfres o ffotograffiau Paul Cabuts ‘End of the Row’ pob math o gynigion cymhleth. Yn ogystal â’r tyst maent yn cynrychioli i’r newidiadau diwydiannol yn Ne Cymru, ble ymddangosodd y teresau yma yn niwedd y pedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’r ffotograffiau hefyd yn pwyntio at y dirywiad mewn rhyngweithrediad cymdeithasol ar y strydoedd. Mae clecian y cymdogion wedi cael eu disodli gan deledu realiti a rhaglenni sebon wrth i ni ddechrau byw ein bywydau trwy eraill. Efallai dyma oedd y sefyllfa erioed, ond yn y gorffennol hel straeon a chlebran oedd wrth galon y broses. Fe wnaeth y darllediad diweddar o’r jiwbilî amlygu’r newidiadau. Doedd dim parti yn Stryd Jiwbilî yn Aberdâr eleni. Mae gan End of the Row rhyw derfynoldeb iddi sy’n gwneud sylwadau ar y bywydau a ddigwyddir tu ôl i’n drysau caeedig.

Yng ngwaith Edward Adam ceir parti penblwydd merch ei ffilmio ar ffilm Super-8 a chaiff y ddelwedd o’r canwyll yn cael ei chwythu ei hail-chwarae. Mae yna ymdeimlad o hiraeth yn ansawdd y ffilm ac mewn diniweidrwydd y ferch sydd i’w gweld yn chwythu’r canhwyllau ar y gacen allan, drosodd a throsodd. Mae’n ymddangos fel gardd cefn cyffredinol gyda chyfeiradau ar gyfer fwy nag un cenhedlath. Mae’r darn yn cyfeirio at draddodiad arall, arwydd cyfarwydd arall yr ydym yn defnyddio i lywio ein ffyrdd trwy fywyd; penblwyddi, yn union fel nadolig, priodasau a bedyddiau sy’n atalnodi ein bywydau fel digwyddiadau i’w recordio ar gyfer yr albwm teuluol. Mae gan y darn yma gysylltiad arbennig i gyfnod cyn y camerau CCTV holl-bresennol sy’n cofnodi mewn ffordd awtomatig a didaro.

Ar ddiwrnod olaf yr arddangosfa, bydd y galeri yn cael ei chymryd drosodd gan Ŵyl Haf, wedi ei threfnu a’i chyflwyno gan yr artistiaid. Addurnir Gordon Dalton yr oriel gyda baneri wrth-ddathliad. Mae’r symbol eiconig yma o’r dathliadau jiwbilî yn sillafu’r geiriau cau o gân y Sex Pistols ‘God Save the Queen’. Traddodiad gyda un cynsail yn unig ( 2001), mae’r Gŵyl Haf yn gymysg cymdeithasgar o hunan-wawd ac hwyl ddigywilydd. Ffocws y diwrnod yw cyfrannu, naill a’i drwy gymryd rhan yn y gêmau ac ymweld a’r stondunau yn y galeri, neu drwy eistedd, ymlacio ac amsugno’r awyrgylch. I orffen y gweithgareddau cawn noswaith o ddifyrrwch yng Nglwb Llafur Treganna gyda chymysgedd o artistiaid talentog ac adloniant.

  • <b>Edward Adam</b>
  • <b>Paul Cabuts</b> <i>End of the Row</i>
  • <b>Catrin James</b>
  • Summer Fête
  • Summer Fête
  • Summer Fête

Programme