Mae'r strwythur yng nghanol yr arddangosfa yn ddiymhongar - mae yno i ni ei ddefnyddio, eistedd arno, cyfarfod gerllaw ac i yfed te wrtho. Defnyddir y cerflun bellach fel bwrdd, er ei siâp anghyffredin – ond roedd ganddo swyddogaeth wahanol yn wreiddiol. Dyluniwyd ef o jig alwminiwm syml o un o'r gweithdai y mae wedi bod yn ymweld ag ef, wedi'i chwyddo at ddefnydd gwahanol.
Ceir nifer o elfennau yma y gellid eu darllen fel un elfen gyfan er mwyn deall rhai o'r cyfeiriadau di-ri a wneir gan Meehan.
Mae'r mygiau yr ydym yn yfed ohonynt wedi'u cynhyrchu ganddi hi hefyd - ac maen nhw i'w defnyddio. Yn aml, pan gaiff eitemau cerameg eu harddangos mewn galeri, ni ellir yfed ohonynt fel arfer. Unwaith y cânt eu harddangos, fel arfer dan wydr, ceir gwared â'u gallu i gael eu defnyddio. Yma, maen nhw'n mynd law yn llaw â sgwrs. Mae gan bob un ohonynt ddarnau o frawddegau byr, megis cwestiynau, cyngor neu arweiniad.
Ar y bwrdd hefyd mae argraffiad o ganllawiau ar gyfer golchliwio (colourwashing), a daw'r testun o Fwletin Brynmawr yn ogystal â llawlyfrau'r arlunwyr. Mae wedi'i roi ar waith ar y wal werdd y tu ôl i ni a cheir darnau dogfennol ynghylch y prosesau a hanes y lliw gwyrdd y mae wedi'i ddewis. Mae Arbrawf Brynmawr yn gyfeirbwynt pwysig i Meehan. Roedd yn fenter gan y Crynwyr yn ystod y 30au i ailhyfforddi ac ailwampio ardal a ddioddefodd effaith ddifrifol y dirwasgiad, ac yn adeg pan ddaeth sgiliau diwydianwyr a chrefftwyr ynghyd.
Mae arfer Meehan yn eclectig o ran ei darddiad a'i ymchwil. Mae'r darnau sy'n ysbrydoli'r elfennau wedi deillio o ddeialog hirach. Nid trwy ddamwain y daeth ei gwaith i gael ei osod y tu allan i'r llyfrgell, lle roedd hi'n arlunydd preswyl yn ystod 2016 ac wedi helpu i'w llunio. Mae ei gwaith hi'n parhau yno gyda ffilm ddolen syml o drothwy lle diwydiannol yn cael ei ddefnyddio.
Mae'n bosibl bod yr allwedd i ddeall y gwaith yn y slogan ar y llawr o ganllawiau i waith nafi: Peidiwch byth â sefyll yn sgwâr at eich gwaith, dylech bob amser ei hanner wynebu (ar ongl o 45 gradd).
O baentio i baentio ac addurno, o gynllunio trefol i bensaernïaeth orielau, mae diddordeb gan Lydia yn y syniad o bobl fel artistiaid, gan adolygu eu prosesau a'u cynnyrch fel gwaith celf ac ymgysylltiad dinesig wedi'u cyfuno.Yn 'A Template for Application', mae Lydia'n cyfuno deunydd o'r archif a'i harsylwadau o'i hamgylcheddau bob dydd, i archwilio'r syniadau hyn.
Gyda chefnogaeth gan Cyngor Celfyddydau Cymru
Copyright © g39 2020 All Rights Reserved | Site Design: Chameleonic | Site Programming: Cool Pants