From A to B [via C]

10 Hydref - 2 Tachwedd 2001

GOFOD CELF GYFOES DROS-DRO

i g39 Lon y Felin Caerdydd CF10 1FH

From A to B [Via C]

Ar gyfer arddangosfa o A i B [heibio i C], gwahoddwyd cyfranwyr i ystyried mapio a lleoliad. Mae'r cynnyrch yn amrywio o'r diwylliannol a phersonol i'r daearyddol a ffenomenological. Ar y ddau lawr cyntaf ceir gwaith corfforol S2, Adam Williams a Wig Sayell; ar y llawr uchaf drwy gyfrwng CD-ROM (dan oruchwyliaeth Stephan Caddick) gwelir gwaith digidol 12 artist. Taith ar hyd llwybr cysyniad mapio yw'r arddangosfa, taith sy'n cynnig syniadau ynglyn â lleoli ein hunain ar y siwrne o'r cychwyn (A) i'r diwedd (B).

Gofodau trawsnewidiol sy'n mynd â bryd Adam Williams. Mae ei waith yn cynnig cyfle i ni gamu'n ôl o lefydd pob dydd diflas a'i gwylio o'r newydd a thrwy hynny ystyried corff y byd cyfoes. Meysydd awyr, meysydd parcio ceir, canolfannau siopa - mae'r rhain i gyd yn llefydd diddim; cyrff ydym ynddynt, bodau diflanedig mewn gofod ac amser. Nid ydym ble yr oeddem - nid ydym ble yr ydym am fod. Â'n hysgyfaint yn llawn o awyr wedi'i drin, awn yn ein blaenau - i gyrraedd neu ymadael.

Pwrpas ffotograffiaeth yw symud y gwyliwr o'r presennol i rywle arall. Gan ddefnyddio taflunydd, mae Wig Sayell yn ein cludo i bedwar lleoliad ar ochr ffyrdd yng nghymoedd y De. Yn gymunedau byw a hyfyw cyn tranc y diwydiant glo, dewiswyd y lleoliadau yma er mwyn bytholi delfryd paradwys cefn gwlad. Drwy fframio ei waith yn y modd yma, mae Wig yn holi ynglyn â drychfeddwl ein gwlad hyfrydlas drwy ail-greu panorama o fewn muriau'r oriel.

Tu fewn a thu hwnt i'r oriel mae gwaith S2 yn cynhyrchu eiliadau preifat yn hanes y ddinas gan osod torchau coffadwriaeth yng nghyd destun digwyddiadau penodol. Yn yr oriel mi welwn fideos o dorchau a dynnwyd o fws Taith Caerdydd. Mae'r torchau yn ychwanegu at y daith, tra ar yr un pryd mae'n 'taith' o fewn yr oriel yn amlygu ffeithiau ac ystadegau moel y ddinas tra'n anwybyddu ei 'phresennol'. Yn sylfaenol, mae S2 yn defnyddio'r ddinas fel cyfrwng i ymyrryd a dadwneud; map yw'r ddinas, map ar gyfer perfformiad.

CD-ROM 'Via', dan ofal Stephan Caddick.
Man i sefyll a sylwi ein tirwedd yw map; wrth ei ddefnyddio rydym yn feistri ar bawb a phopeth. Mae'n disgrifio arwynebedd y byd ond hefyd yn creu ein delwedd ohono. Wrth bori dros fap mae bod dynol fel duw yn gwylio'r greadigaeth. Yn hanes defnydd mapiau mae hanes y byd cyfoes. Maen nhw'n cynyddu ein hymwybyddiaeth o'r byd o'n cwmpas ac ar yr un pryd yn ein galluogi i deithio bedwar ban byd yn rheibio, lladd ac ysbeilio.
Mae Via yn defnyddio syniad hanesyddol mapio a'n gofyn am ein hymateb personol drwy alluogi artistiaid igydio yn y cysyniad a'i droi ben i waered. Mae'r creadigaethau yn amrywio o chwilio dwys yn nhrigfannau'r cof i'r broses o fapio sain byd tawel y meicroscop tra ar yr un pryd yn ein hatgoffa ein bod o dan y chwyddwydr yn barhaol. Yn amrywio gymaint â'r artistiaid a'i creodd, eto i gyd mae un elfen yn gyffredin i holl elfennau'r cyfanwaith - ein hangen i gyfeirio ein hunain. Heb hynny, rydym yn eneidiau coll.

Yn llonydd neu'n symud, yn myfyrio dros ddoe neu'n cynllunio yfory, mae angen rhyw fath o fapio ar bawb er mwyn llunio, gosod mewn cyd-destun a deall ein meddyliau. Rhoi cyfle i ni ail-edrych ar y broses yma yw bwriad o A i B [heibio i C].

Programme