12 Gorffennaf - 13 Medi 2014

Isabelle Hayeur
Flexing the architectural imagination, the artists in Cities of Ash offer the god-like experience of model city panoramas found in civic museums or on observation decks of towering skyscrapers. They each engage in the pursuit of obscuring the urban experience with a fantasy veil, leaving glimpses between its brushstrokes.
Gan ymestyn eu dychymyg pensaernïol, mae artistiaid Cities of Ash yn cynnig profiad duwiol bron o fodelau panoramig o ddinasoedd a geir mewn amgueddfeydd dinesig neu ar lwyfannau gwylio nendyrau anferth. Mae pob un yn ceisio tynnu llen ddychmygus dros y profiad trefol, gan adael ambell gipolwg rhwng marciau’r brwsh.
Drwy uno llawer o dueddiadau mudiad seicoddaearyddiaeth y 1950au a'r 1960au gyda Swrealaeth a Dadaiaeth yr 1920au, llenorion Ewropeaidd megis Italo Calvino (‘Le città invisibili') a René Daumal ('Mount Analog'), maent yn anhrefnu ac yn ail-ddychmygu’r ddinas a’r syniad o le. Maent yn cyfuno taflwybrau sy’n ymddangos yn amhosibl gyda chwestiynau metaffisegol am yr amgylchedd y mae dros hanner poblogaeth y byd yn ei alw’n 'gartref' bellach.
Mae Cities of Ash yn cyflwyno cydosodiad aruthrol o isadeiledd trefol hynod a rhyfeddol, lled-realaeth a myfyrdod seicoddaearyddol.