5 Ebrill - 21 Mehefin 2014

Laure Prouvost, Stong Sory (Brother). Courtesy of Laure Prouvost and LUX, London
Beyond its literal meaning about the unsuccessful pretender to the throne, this exhibition’s title is a mnemonic. Each word represents another, prompting us to recall the colours of the visible spectrum in sequence. Richard = red, Battle = blue. The words are stand-ins for other images. Mnemonics are used to aid recall, but rather than simplifying they add another layer of complexity to a phrase’s meaning.3>
Y tu hwnt i’r ystyr llythrennol am y gŵr a geisiodd yn ofer hawlio coron Lloegr, mae teitl yr arddangosfa hon yn un gofeiriol. Mae pob gair yn cynrychioli gair arall, gan ein helpu i gofio lliwiau'r sbectrwm gweledol mewn trefn. Richard = red, Battle = blue. Mae’r geiriau’n cael eu defnyddio i gynrychioli delweddau eraill. Defnyddir cofeiriau i brocio’r cof ac yn hytrach na symleiddio, maen nhw’n ychwanegu haen ychwanegol o gymhlethodd i ystyr ymadrodd.
Mae’r artistiaid yn Richard Of York Gave Battle In Vain yn dilyn trywydd digon tebyg. Mae
Laure Prouvost yn cyplysu naratif llafar ffantastig gyda gwrthrychau cyffredin, gyda’r llefaru bywiog, ysmala a swynol yn aml yn cyferbynnu â’r delweddau a gyflwynir. Gan bwyso llawn cymaint ar fyd symbolaeth ag ar fyd trosiadau, mae
Catrin Davies a Lewis Wright yn cyfeirio at draddodiad peintio clasurol bywyd llonydd, lle mae’r gwrthrychau’n cynrychioli naratif ehangach. Mae’r arwyneb sydd wedi’i beintio yn dod yn gôd i’w ddatrys i’r sawl sy’n edrych arno. Mae Catrin a Lewis yn mabwysiadu’r traddodiad hwn trwy gasglu ynghyd cerfluniau bywyd llonydd a’u boddi â phigment. Mae gwaith
Jorge Lizalde yn edrych ar y ffordd rydym ni’n cofio ac yn dwyn i gof ddigwyddiadau. Yn ei gyfres o gofeiriau, mae’n creu cerddi ffilmig byrion gan ddefnyddio adnoddau ar-lein mewn ymateb i atgofion cynnar y sawl sy’n cymryd rhan.
Sgwrs a Thaith o amgylch Arddangosfa
Dydd Sadwrn 3 Mai 1pm
Ymunwch â’r curadur Anthony Shapland am daith guradurol o gwmpas yr arddangosfa a sgwrs. Am ddim, croeso i bawb.