29 Tachwedd - 22 Rhagfyr 2000

Ar gyfer ei waith ar y llawr gwaelod, mae Simon Fenoulhet yn cydnabod natur luosog eitemau HyperValue. Mae Out of Body yn defnyddio addaswyr dwbl a thriphlyg ar ffurf blociau adeiladu er mwyn creu cadair drydanol fyw. Gan ei bod yn sianel weithredol i'r prif gyflenwad o drydan, daw grym y gwrthrych hwn yn amlwg o'r goleuadau clipio ymlaen a ddaw o HyperValue a blygwyd i'r gadair ac sy'n ei goleuo. Mae'r goleuadau'n arwain at siwt sy’n hongian o'r nenfwd, gan gwblhau’r gwaith.
Mae Out of Body yn awgrymu nifer o gysylltiadau, un ohonynt yw'r gadair drydanol, sef dull o ddienyddio, gyda'r siwt yn cael ei gweld fel drych ar gyfer ystafell ymbincio un o sêr byd y teledu. Ond ar wahân i gyfeiriadau o'r fath, mae diddordeb y gwaith yn deillio o ddefnydd Fenoulhet o wrthrych defnyddiol sylfaenol fel bloc adeiladu. Mae hyn yn creu golygfa lawn egni o wrthrych difywyd, a ddefnyddir fel arfer fel cyswllt yn unig rhwng y Grid Cenedlaethol a'r defnydd mwy amlwg, syth a 'di-Hyper' o bŵer - setiau teledu, cyfrifiaduron a stereos. Mae Out of Body yn dathlu'r cysylltiad hwnnw fel ffenomen ynddo'i hunan, yn amlwg yng ngwrthrych enwog yr artist, sef y gadair.
Cydnabyddir potensial lluosog HyperValue yng ngwaith
Richard Powell Hypercinth, ond mewn ffordd wahanol. Ers yn gynnar ym mis Hydref, mae Powell wedi bod yn tyfu bylbiau Croeso Haf, eitem na ddisgwylir ei chael mewn siop sy’n gwerthu nwyddau am bunt. Gan nad ydynt ynghlwm â'r oes fechan sydd gan y rhan fwyaf o gynnyrch HyperValue, mae'r disgwyliadau wrth brynu'r bylbiau'n wahanol iawn i rai eitemau bargen eraill:
'Mae'r bylbiau a'r pecynnau o hadau'n dod i'r uwchlifedd hwn a gynhyrchwyd mewn cyflwr heb ei wireddu, ac yn gadael i gyfeiriad dyfodol ansicr. Maent yn dew ag egni, maent yn fatris tyfol ac yn rymus a llawn potensial. Mae hyd eu 'hoes' yn fater i ni, y prynwr / gwyliwr, wedi'i gohirio ac o bosibl heb ei chyflawni. Ynddynt mae moment na allwn ei ragweld, pan fo'n bosibl iddynt fynd ymhellach na'r label. I mi roedd / mae hyn yn gyffrous, mae risg na fyddant yn llwyddo i gyrraedd eu cyflwr yn eu blodau (eu pwrpas ymhlyg yw parhau i fodoli), yr unig bethau yn y siop sy'n gallu adfywio eu hunain, optimistiaeth anysgrifenedig. Nid yw'r gwaith yn gopi, yn esboniad neu’n ddiagram, o brofiad, ethos nac uchelgais Hypervalue; mae'n cynrychioli dim ond ei hun i'r gwyliwr. Mae Hypercinth yn edrych ar ystyr ehangach gwerth y gair, gan ei hafalu'n llai â phris rhad nwyddau a mwy gyda'u gwerth a hyd eu hoes.'
Mae gwaith
Louise Adlam yn cymryd ymagwedd fwy hanesyddol tuag at ffenomen HyperValue. Mae dychwelyd i Ynys y Barri'n dwyn i gof trip hiraethus o ryw fath, efallai i rywun oedd yn byw yno neu a aeth ar wyliau yna untro. Daw'r ffilmiau Cine 8mm o'r ardal lan y môr yn amlwg o'r traddodiad gwyliau, ond mae'r delweddau a welwn yr un mor wag â lluniau Dauguerre o Baris. Ymddengys fod y ganolfan wyliau wedi mynd heibio ei gorau, wedi cael ei hadeiladu ar fusnes sy'n gwerthu nwyddau byrhoedlog, tafladwy. Mae gan Ynys y Barri fawredd sy'n wahanol iawn i ganolfannau gwyliau eraill fel Brighton neu Bournemouth, ond sy'n denu tua'r un nifer o ymwelwyr yn yr haf. Yr hyn sy'n syfrdanol yw'r ffaith i'r holl ganolfan wyliau gael ei datblygu, a’i bod yn eiddo i, Ken Rogers o HyperValue, ac mae'r lluniau o'r ganolfan hon yn adlewyrchu bywyd yr entrepreneur a'i creodd.