Half a tick

17 Mai - 3 Mehefin 2000

CONTEMPORARY TEMPORARY ARTSPACE

datganiad i’r wasg g39 Lôn y Felin Caerdydd CF10 1FH



hanner tic

“Fel arfer roedd tic yn dilyn toc ond heddiw stopiodd y cloc hanner ffordd trwy ei dic cyntaf. Roedd y diwedd yn y golwg. Bellach nid oedd yfory yn cwympo i mewn i heddiw a gafodd ei daflu i mewn i ddoe. Roedd llinell y digwyddiadau drosodd. Roedd amser wedi cael digon. Roedd eisiau teithio ym mhob modd y gallai. Gallai gorffennol effeithio ar ddyfodol a allai effeithio ar y gorffennol a allai effeithio ar nawr”.

Mae’r ail arddangosfa yn y g39 sydd newydd ei hadnewyddu yn sioe un person gan un o artistiaid mwyaf diddorol ac amrywiaethol Caerdydd. Gan weithio gyda Fideo a sŵn, mae Michael Cousin yn archwilio’r gofod sy’n gwahanu atgof y gorffennol o ddisgwyliadau’r dyfodol.

Mae Cousin yn aros ac yn gadael i ni aros am y cam nesaf mewn dilyniant o ddigwyddiadau a roddir sy’n gadael y gwyliwr yn yr awyr. Mae e’n ein gorfodi ni i ystyried i foment wedi’r hyn sydd newydd ddigwydd a chyn yr hyn y disgwylir fydd yn digwydd nesaf. Mae’r gwaith yn defnyddio dull storiol am yn ail â seibiau, cyfnodau o orffwys neu betruso sy’n torri ar draws ymrwymiad y gwyliwr â dilyniant y digwyddiadau.Yn hytrach na darllen y frawddeg, mae e’n tynnu ein sylw at yr atalnodau llawn.

”Mae’n bosibl y gall digwyddiadau sy’n digwydd nawr, y foment hon, ond effeithio ein dyfodol. Gall bethau a ddigwyddodd ddoe neu flynyddoedd yn ôl ymestyn allan a chyfwrdd â ni nawr. Mae pethau yfory yn aros am ein heddiw. Ar ba bwynt ydym ni fwy neu lai yn ymwybodol o hyn oll? Gallant bob un gynnig posibilrwydd di-ben-draw neu galedu mewnfodol”.

Mae Michael yn ymgeisio dadorchuddio ‘ansafle’ rhyfeddol yn y presennol, er mewn cau’r bwlch rhwng yr hyn a ddychmygir a’r nawr.
”A ddylem wastraffu eiliadau gwerthfawr ar amser yn pasio trwyddom a heibio i ni. Yr ydym yn pasio trwy amser yn ei grynswth. Pam y dylai ein defnyddio ni? Nid yw yno mewn gwirionedd. Nid ydym yn newid gydag amser, mae amser yn ein newid ni. Deffrowch ac edrychwch o gwmpas. Ataliwch rhag credu mewn amser, ein disgwyliad a’r ofn sydd gennym ohono, ac mi allwn arnofio ar awyr. Stopiwch, edrychwch a gwrandewch. Peidiwch ag edrych ond i ddau gyfeiriad. Edrychwch ymhobman.”.

Programme