If.... Lesley Guy

3 - 20 Chwefror 2010

<i>Orangutan (The Invisible Man)</i> 2009
Orangutan (The Invisible Man) 2009

If.... is a series of independent projects that g39 has selected as part of its 2009-10 exhibition programme. The next instalment invites artist and writer Lesley Guy to utilise the ground floor gallery as a project space. Having completed a new project entitled Baby Animals consisting of a series of 24 drawings, Lesley explores tensions between structure and creativity.

Mae If.... yn gyfres o brosiectau unigryw y mae g39 wedi'i dewis fel rhan o'i rhaglen arddangos ar gyfer 2009-10. Mae'r rhan nesaf yn gwahodd yr artist a'r llenor Lesley Guy i ddefnyddio llawr gwaelod yr oriel fel gofod prosiect. Ar ôl cwblhau ei phrosiect newydd o'r enw Baby Animals a oedd yn cynnwys cyfres o 24 o ddarluniau, mae Lesley yn archwilio'r tensiwn rhwng strwythur a chreadigrwydd.


Mae'r corff hwn o waith yn deillio o ymgais i gynhyrchu gwaith celf mewn ffordd fwy arbrofol a greddfol nag o'r blaen, y ffordd y buodd yn gweithio ynddi yn blentyn cyn dod yn 'artist'. Ym marn Lesley, roedd y llyfr lliwio yn fan cychwyn da, mae'r penderfyniad cychwynnol o beth i'w ddarlunio wedi cael ei wneud eisoes, ac mae'r gweithgaredd o 'lenwi'r gwagleoedd' yn dilyn. Gan ei bod wedi arbrofi gyda darlunio awtomatig eisoes, mae Lesley wedi ceisio canolbwyntio ar y broses o wneud, a'i mwynhau, a bu'n cynllunio ac yn defnyddio'r delweddau er mwyn bodloni dymuniadau esthetig.

Drwy gydol y corff hwn o ddarluniau, dechreuodd hanesion rhyfedd ddod i'r amlwg, sy'n cael eu coethi gan deitlau o straeon ysbrydion ac arswyd. Mae'r darluniau yn adlewyrchu brwydr rhwng amodoldeb a rheolaeth yn ogystal ag ailddehongli'r hyn sy'n gyfarwydd a'r hyn sy'n bersonol, sydd, ar brydiau, yn cael effaith anghartrefol.

This show was selected by
  • Michael Cousin
    • Bu’r artistiaid canlynol yn rhan o arddangosfa:
    • Lesley Guy
    • <i>Orangutan (The Invisible Man)</i> 2009
    • <i>Koala</i>
    • <i>Storks (Rosemary`s Baby)</i>

    Programme