11 Rhagfyr 2009

Jason Pinder, Outsider/Informer
Completing the Birmingham-Bristol-Cardiff trinity, the artists, curators and critics of Cardiff are proud to present December eleven – a day of art events, screenings, visits and socialising across the City. December eleven is a result of conversations initiated through The Centre Is Here seminars organised by Chapter gallery and WARP.
Gan orffen trindod Birmingham-Bryste-Caerdydd, mae artistiaid, curaduron a beirniaid Caerdydd yn falch o gyflwyno December eleven - sef diwrnod o ddigwyddiadau celfyddydol, sgriniadau, ymweliadau a chymdeithasu ar draws y Ddinas. Mae December eleven yn ganlyniad i sgyrsiau a gychwynnwyd drwy seminarau The Centre Is Here a drefnwyd gan oriel y Chapter a WARP.
Bydd y diwrnod yn dechrau am hanner dydd gydag ymweliad i stiwdios enwog
Tactile Bosch, lle y mae gwahoddiad i artistiaid o'r tair dinas sy'n cymryd rhan wneud cyfnod preswyl. At hynny, bydd ymweliadau â stiwdios gwahanol artistiaid, ffilm a ddangosir gan
Outcasting, cyflwyniadau drwy gydol y dydd gan
Open Empty Spaces, British Racing Green ac ymweliad â
Chanolfan Gelfyddydau’r Chapter, sydd newydd ail agor. Bydd
Rubric> cylchgrawn diwylliant yn rhyddhau ei rifyn hir ddisgwyliedig nesaf, a bydd cyfle i ymlacio mewn tafarndai a bwytai detholedig gan gynnwys y Cardiff Arts Institute newydd. Nodir diwedd y dydd gan ragolwg o arddangosfa Richard Bevan yn g39 yng nghanol y ddinas a pharti ar ôl y sioe.
Amserlen
12pm – Croeso ac arddangosfa ‘Building Up Not Tearing Down’ yn Tactile Bosch. Artistiaid Preswyl: Rhys Coren a Fraser Cook (Bryste), Alistair Owen a Jason Pinder (Caerdydd) a Sarah Farner a Joanne Masding (Birmingham). Darperir lluniaeth.
2pm – Arddangosfa Alan Phelan, Comisiwn Bocs Golau Bedwyr Williams ac edrych ar Chapter wedi'i ailwampio.
2.15pm – Siarad ag Artist gydag Alan Phelan
3pm – Stiwdios Printhaus
3.30pm – Stiwdios Kings Road
4pm Byddwn yn mynd am dro o gwmpas Canol Dinas Caerdydd a bydd cyfle i weld nifer o weithgareddau gan gynnwys: Sgrinio Outcasting ar y Sgrin Fawr yn yr Aes, Setiau Gwyddbwyll Bedwyr Williams (darnau ar gael yn y Llyfrgell Ganolog am flaendal), Theatr Genedlaethol Cymru yn Arcêd y Castell a lansio rhifyn dau o Rubric yn Cardiff Arts Institute, a fydd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Endless Supply a chyfle i gael rhywfaint o luniaeth.
7pm – Rhagolwg Richard Bevan yn g39
9pm – Parti ar ôl y sioe – Cardiff Arts Institute a chyfle i dreulio'r noson yn yfed
Fel dinas, mae Caerdydd wedi gweld datblygiadau radical dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yr un mor wir am lwyddiannau artistiaid sy'n creu sîn celfyddydau Caerdydd. Dyma adegau optimistaidd, dewch i ymuno â ni i ddathlu.