10 - 23 Rhagfyr 1998

Meriel Herbert, Channels of Communication (left), and Monologue (right), 1998.
For g39’s first ever solo exhibition we present new audio and video work by Meriel Herbert. The title of the exhibition, Dialogue, is of underlying importance to all of the work on show. This dialogue takes place between the human body and the machine, the mother and daughter, the male and the female, the conscious and subconscious self.
Ar gyfer arddangosfa unigol gyntaf erioed g39 rydym yn cyflwyno gwaith sain a fideo gan Meriel Herbert. Mae teitl yr arddangosfa, Dialogue, o bwys sylfaenol i’r holl waith sy'n cael ei arddangos. Mae'r ddeialog yn digwydd rhwng y corff dynol a'r peiriant, y fam a'r ferch, y gwryw a'r fenyw, yr hunan ymwybodol a'r hunan anymwybodol.
Mae tri darn newydd o waith i'r arddangosfa:
Monologue Mae delweddau o'r gwryw a'r fenyw wedi cael eu cynhyrchu ar ddarnau gwahanol o bapur, gan feddiannu'u hardaloedd ar wahân eu hunain.
Out of Synch Mae cwpl i'w glywed ar yr un pryd ond yn aros ar eu sianeli eu hunain.
Channels of Communication Gan gyplysu'r oriel yn ei chyfanrwydd, mae'r fenyw'n rhoi ei llais ar gorff y dyn, ond nid yw'n caniatáu i'w chorff fod yn safle i’r llais gwrywaidd.
Gyda'i gilydd mae'r gwaith yn awgrymu ein bod ond yn gallu deall ein gilydd hyd at ryw bwynt; hyd yn oed mewn perthynas agos ni allwn byth ddeall sut beth yw bod yn rhywun arall; yn y pen draw rydym ar ein pen ein hunain ac yn wahanol.