Barnraising & Bunkers

8 Mai - 29 Mehefin 2013

Angharad Pearce Jones, <i>“This Way Please ….” / “Ffordd ‘Ma Plis….”</i>, painted steel, painted MDF, 4 x 5 m. Photo: g39
Angharad Pearce Jones, “This Way Please ….” / “Ffordd ‘Ma Plis….”, painted steel, painted MDF, 4 x 5 m. Photo: g39
download arrow imageTo Download a press quality image click here to login or register

Ar gyrion canol y ddinas mewn warws sydd wedi cael pwrpas newydd, ei hanes diwydiannol yn amlwg o hyd ond wedi'i ddisodli gan adeiladu o fath arall. Mae eiddo newydd g39 yn cefnogi'r syniad bod yr amgylchedd adeiledig yn broses, nid yn gyflwr heb newid ac er gwaethaf dyheadau penseiri a chynllunwyr mae ei dwf yn digwydd yn organig yn ôl ewyllys ei drigolion. Os yw Codi Ysguborion yn crynhoi gweithredu ar y cyd a chydweithredu, mae Bynceri'n awgrymu'r gwrthwyneb, un weithred. Mae'r arddangosfa Codi Ysguborion a Bynceri yn edrych ar ein symbyliad am gysgod, a sut rydym yn dewis ei adeiladu. Mae'n ddrysfa thematig o lwybrau, cysgodfeydd, strwythurau a chelf. Mae'n cynnwys gwaith gan artistiaid sy'n ymgysylltu â phensaernïaeth neu strwythurau ffisegol drwy'u hadeiladu a symud o'u hamgylch, o'u cwmpas a thrwyddynt.

Yn ganolog i'r sioe y mae ffilm Uriel Orlow, Holy Precursor, sef myfyrdod ar gylch presenoldeb ac absenoldeb, ôl-fywyd arlliwiau, a natur fel tyst difrifol hanes yn y presennol. Mae'r ffilm wedi'i gosod mewn ac o gwmpas pentref Cwrdaidd a adeiladwyd ar safle hen fynachlog Armenaidd Surb Karapet, un o'r safleoedd pererindod Armenaidd mwyaf pwysig. Cafodd y fynachlog ei dinistrio i raddau yn ystod hil-laddiad yr Armeniaid yn 1915, a'i gadael yn rwbel gan fyddin Twrci yn y 1960au fel rhan o arfer parhaus gyda'r nod o ddileu pob arwydd o dreftadaeth ddiwylliannol Armenaidd yn Nhwrci. Adeiladwyd y pentref gan ddefnyddio cerrig adfeilion y fynachlog a ddinistriwyd gan fomiau. Mae ffilm Orlow yn symud o alarnad a lluniau o'r tai a ailadeiladwyd i ddilyniant cau o flodau'n cael eu medi, ond mae'r dilyniant wedi'i wrthdroi, gyda phob planhigyn yn dod o hyd i'w le a'i wreiddiau yn y pridd eto.

Yng nghanol yr ystafell, yn uchel iawn uwch ein pennau, mae Rich White wedi creu gwaith newydd. Ei broses sy'n ymdebygu'n fawr i godi ysgubor, gan olygu newid (neu mae'n ymddangos fel ei fod yn cael ei newid) pensaernïaeth gyfredol yn ffisegol mewn gofodau cyhoeddus ac arddangos. Datblygir yr ymyraethau pensaernïol hyn yn benodol ar gyfer eu lleoliadau drwy ymchwil ac ymweliadau â safleoedd; gan ymateb i bensaernïaeth, hanes a digwyddiadau cyfredol yn yr ardal. Mae'r darn GBU-28 Deep Throat yn cyfeirio at lysenw bom a elwir yn dorrwr bynceri arno, torpido ar siâp nodwydd a ddefnyddiwyd i dorri drwy goncrit dur. Adeiladwyd y gwaith ar y safle o ddeunyddiau y daethpwyd o hyd iddynt neu a adenillwyd o'r arddangosfa ddiwethaf a'r bensaernïaeth oedd eisoes yn bodoli. Gan dyfu a newid yn ystod y gwaith o'i adeiladu, mae wedi'i lapio mewn defnydd du llwyr ac mae'r strwythur yn troi'n wagle, yn gysgod sy'n amlinellu ardal y dinistrio.

Adeiladwn. Dinistriwn. Gyda phob ymgnawdoliad newydd mae'r lleoedd rydym yn byw ynddynt yn etifeddu enw eu bywyd blaenorol. Nid Caerdydd heddiw yw'r Gaerdydd a oedd yn gasgliad o ffermydd, neu'r Gaerdydd a ffrwydrodd i fodolaeth ar elw'r chwyldro diwydiannol. Gyda phob ymgnawdoliad mae ein llwybrau'n newid wrth i ffiniau gael eu hail-ddarlunio. Mae tri o'r artistiaid yn delio'n uniongyrchol â symud o gwmpas a llwybrau. Mae cerflun Angharad Pearce Jones, Ffordd ‘Ma Plis...., yn fersiwn eithafol o symudiad rheoledig neu gyfyngedig. Mae arfer celf Jones yn croesi'r llinell rhwng cerflun a chomisiwn dinesig ac mae hi'n aml yn defnyddio technegau a chonfensiynau diwydiannol. Mae tri llwybr drwy'r cymysgedd rhyngweithiol hwn o waith metel a chlwydi, llwybr uniongyrchol a rwystrir gan gyfres o atalfeydd a giatiau tro sy'n golygu ei bod yn amhosibl symud yn gyflym. Mae'n troi'n osodiad wedi'i ffetisheiddio o rwystredigaeth sy'n herio moesau symud cymunedol.

Mae cyfres ffotograffig Richard Powell, Desire Lines, yn ddogfen o'r llwybrau a grëwn i fynd â ni o a i b. Mae'r llwybrau'n dod i'r amlwg fel llwybrau byr lle mae ffyrdd a adeiladwyd yn mynd ar daith gylchol, neu mae ganddynt fylchau, neu nid ydynt yno o gwbl. Mae'n bosibl mai llwybr yw'r gair anghywir gan fod y llwybrau hyn yn bodoli i raddau mwy fel trywydd, mae mwy nag un person yn dewis ffordd ac mae traed yn dechrau gwasgu'r ddaear a chreu’r ffordd. Mae'r llwybrau hyn yn fynych i'w gymharu â llwybrau onglau sgwâr y cynllunwyr. Mae detholiad Powell o ffotograffau’n casglu patrymau ymddygiad yn ogystal â lleoliadau a chyflyrau.

Gan greu llwybrau amgen, mae Dan Griffiths yn hwylio drwy strydoedd yn gyflym ar sgrialfwrdd. Mae’n gwneud ffilmiau tameidiog am gwrdd â’r blerdwf trefol a daw'r adeiladau, llwybrau a chelfi stryd yn dod yn rhan o’r daith. Ar yr un pryd yn flaneur-sefyllfaydd, yn dangos inni y gellir gwrthsefyll rhesymoliaeth ddiaddurn yr amgylchedd trefol, ymddengys ei arwyddwyr diwylliannol wedi’u hadhawlio i greu set fwy boddhaol o ddigwyddiadau dyddiol. Wrth symud, mae’r ddinas yn pasio o’i flaen, maes chwarae yn yr amgylchedd adeiledig sy’n dathlu profiadau sy’n cael eu byw. Wrth iddo deithio caiff y sgrialfwrdd o dan ei draed ei grafu a’i farcio, gan adael sgimiau o baent gyda phob naid. Ar gyfer y gwaith hwn nid bwrdd arferol mohono – fel arfer mae’r bwrdd hwn yn cael ei hongian ar waliau pobl. Mae’n un arbennig o rai Damien Hirst ac mae Dan yn rhoi’i werth yn bendant allan o ddwylo casglwyr preifat ac yn dychwelyd ei swyddogaeth. Caiff y bwrdd ei arddangos mewn cês arddangos amgueddfa, er y caiff ei symud bob hyn a hyn yn ystod y sioe a’i ddefnyddio - gan symud rhwng celf a swyddogaeth.

Yng nghanol y ddinas gall bywyd ennill anhysbysrwydd, gallwn ni ddiflannu. Wrth i’r ddinas dyfu, mae’r adeilad yn tyfu a’r rhwystrau rhwng un lle a llall yn parhau i dyfu. Masnach yw’r grym dominyddol ac mae cadwyni’r stryd fawr yn amlhau ac yn cynyddu o ran eu maint. Ochr yn ochr â'r datblygiadau hyn y mae cymdeithas ymylol yn tyfu ac mae is-grwpiau’n bodoli y tu hwnt i’r brif ffrwd. Ceir greddf oroesi drefol sy’n bodoli mewn gwrthgyferbyniad i’n sgwariau glân a threfnus. Mae gwaith Geraint Evans yn ffocysu ar y grwpiau hyn. Drwy ei ddarluniadau a gosodiadau mae’n cydnabod eu gwerth. Ar gyfer y sioe hon mae wedi ail-greu un o’r dewisiadau eraill a adeiladwyd â llaw, dewis amgen i fasnach yn Trolley, ailgread diwylliannol o stondin masnachwr stryd, er bod testunau a manylion y gwrthrychau wedi cael eu newid. Yn gludadwy ac yn gryno, mae’n rhannol yn siop, yn rhannol yn gysegr. Yn bennaf oll mae’n symudol ac o faint dynol.

Ynghyd â hyn mae gwaith Jonathan Powell When We Build Again yn dangos strwythurau sy’n debyg i ffeuau; mae fel eu bod wedi’u creu gan blant, wedi’u rhoi at ei gilydd o flociau adeiladu a achubwyd o adfeilion adeiladau a dinasoedd blaenorol. Maent yn adeiladau â namau o’r dyfodol, adeiladol fel datblygiad o’r broses adfywio gan adael llwybr o adeiladau adfeiliedig, dirywiedig a fydd eu hunain yn y pen draw yn troi’n gofebion i fethiannau’r gorffennol. Daw’r teitl o faniffesto adfywio Birmingham y 1940au wedi’i ddylunio i wella ansawdd bywydau pobl drwy glirio’r slymiau a rhoi tai newydd i’r tlawd, a arweiniodd yn y pen draw at adeiladu tyrrau uchel o fflatiau a greodd etifeddiaeth o broblemau cymdeithasol, adeiladol ac economaidd. Mae datblygiadau’r dyfodol yn cynnig cyfle i ail-ddylunio a gwella ar y prosiectau aflwyddiannus hen ffasiwn hyn a chwrdd ag anghenion cenhedlaeth newydd.

Mae olyniad o’r ffurfiau ailadroddus hyn yn ymddangos yng nghyfres o ddarluniau Abigail Reynolds. Chwiliodd drwy hen siopau llyfrau a marchnadoedd hen bethau i adennill darluniau o bensaernïaeth, tirnodau, cofebion a thirweddau wedi’u hargraffu ar raddfa debyg o bwyntiau mantais gan ffotograffwyr gwahanol ar adegau gwahanol. Caiff y gorffennol a'r presennol eu cyfuno drwy gyfres o doriadau a phlygiadau, sy’n arwain at arwyneb tri dimensiwn sy’n debyg i grwybr ac sy’n cadw cyfanrwydd pob tudalen. Drwy greu montages o ddarluniau hanesyddol mae’n creu continwwm ac yn cyfeirio at gysylltu’r gorffennol â'r presennol, yn cysylltu twf a dinistrio o fewn un darlun.

Yn fynych byddwn yn meddwl am y trefol a’r gwledig fel eu bod yn gwrthwynebu ei gilydd - yr un cyntaf yn gyfystyr â phresenoldeb a’r un olaf ag absenoldeb. Gan i’n hangen sylfaenol i greu cysgod roi ein hanheddau cyntaf inni, felly y daeth y rhain at ei gilydd i ffurfio pentrefi ac yn y pen draw dinasoedd. Ond nid yw breuddwydion trefol o fywyd iwtopaidd a chynhwysiant cymdeithasol bob tro’n goroesi twf cyflym a thameidiog y lleoedd rydym yn byw ynddynt. Pan dynnir y llinell wahanu rhwng mannau cyhoeddus a mannau preifat bydd y gymdeithas wastad yn dod o hyd i ffyrdd o ail-dynnu’r llinell - neu o leiaf o wneud y ffiniau yn aneglur.

  • Uriel Orlow, <i>Holy Precursor</i> (2011). Courtesy: Lux
  • Jonathan Powell, <i>When We Build Again</i> (studio shot), Bitumen, oil on unframed canvas
  • Abigail Reynolds, <i>Devaluation</i> (2012), book pages 29.5 x 21cm
  • Rich White, <i>GBU-28 Deep Throat</i>. (c) The artist. Photo: g39
  • Angharad Pearce Jones, <i>“This Way Please ….” / “Ffordd ‘Ma Plis….”</i>, painted steel, painted MDF, 4 x 5 m. Photo: g39
  • Geraint Evans, <i>Trolley</i> (2013). Photo: g39
  • Dan Griffiths <i>
  • Dan Griffiths
  • Richard Powell, <i>Desire Lines</i>

Programme