4 Hydref - 1 Tachwedd 2008

Rebecca Spooner, The White Stag
g39 presents a new body of work by Rebecca Spooner that comprises three installations using 16mm film, photography and found objects. Engaging with a stag, a hawk and a hare, she explores the mythology of The Huntress whose pagan character reveals a depth of female intuition, intent, vulnerability and power.
Mae g39 yn cyflwyno corff o waith newydd gan Rebecca Spooner sy'n cynnwys tri gosodiad gan ddefnyddio ffilm 16mm, ffotograffiaeth a gwrthrychau y mae hi wedi eu darganfod. Gan roi sylw i garw, gwalch ac ysgyfarnog, mae hi'n archwilio mytholeg Yr Helwraig, y mae ei chymeriad paganaidd yn datgelu greddf merch, ei bwriad, a'i hymdeimlad o berygl a phŵer.
Mewn bywyd cyfoes, mae ein cysylltiad uniongyrchol â'r byd naturiol yn doredig ac yn gyfryngol. Mae tirwedd y wlad wedi cael ei siapio, rydym yn crwydro drwy barciau sydd wedi'u gwarchod fel ymyrwyr mewn gwylltiroedd dof sydd bellach yn lleoliad hamdden yn hytrach nag yn gartref. Mae gwaith
Rebecca Spooner yn ailgysylltu'r gwyliwr dof gyda rhywbeth arall gwyllt. Yn ei gosodiadau, mae'r pellter rhwng y trefol a'r gwledig, rhwng y diwrnod presennol a hen hanes aneglur o fythau a chwedlau wedi cwympo'n ddarnau.
Yn hytrach na defnyddio'r anifeiliaid i hoelio'n sylw ar lefel arddull Aesop
anthropomorffig - sy'n dibynnu ar ddoethineb yr unigolyn neu godau llenyddol - mae gosodiadau cyfoethog Rebecca'n defnyddio proses o berthnasedd trwy adeiladu dealltwriaeth gyfoethog a haenog o'r byd naturiol a'n lle ni ynddo. Mae hi'n defnyddio'r camsyniad teimladol sy'n priodoli'r byd naturiol gyda galluoedd, teimladau, ac emosiynau
dynol: adegau pan fo natur yn ymddwyn 'mewn cydymdeimlad' â dyheadau neu
emosiynau dynol. Roedd hwn yn un o hoff ddulliau'r awduron Rhamantaidd - mewn
adegau o dristwch, mae'n bwrw glaw; mewn cyfnodau o ofid, mae'r tywydd yn stormus; mae anifeiliaid yn efelychu'r ddynolryw. Gall y camsyniad teimladol hwn ddefnyddio priodweddau anifeiliaid i gyfleu dyheadau anymwybodol a throsiadau nwydus yn fwy effeithiol nag y gallai cofnod rhyddieithol o ddigwyddiadau.
Mae ymarfer Rebecca'n ffocysu ar themâu Rhamantaidd natur, gan gynnig moliant i
brofiad emosiynol sy'n cynnwys y marwol a'r dwyfol.
Hoffai Rebecca ddiolch i: Richard Bevan, Virginia Head, Jackie Chettur a Hugh Fowler.