Unit#1: Rachel Calder

15 - 30 Mehefin 2012

Unit#1, a new rolling programme of exhibitions and projects presents recent work from Rachel Calder. For this first instalment of Unit#1 Rachel’s Dreamboat will occupy a new internal project space throughout the duration of the exhibition The Autobiography of a Super-Tramp.

Mae Unit#1, rhaglen dreigl newydd o arddangosfeydd a phrosiectau, yn cyflwyno gwaith diweddar gan Rachel Calder. Ar gyfer rhan gyntaf Unit #1 bydd Dreamboat Rachel yn meddiannu gofod prosiect mewnol newydd drwy gydol holl gyfnod arddangosfa The Autobiography of a Super-Tramp.


O ganlyniad i daith mewn llong sy’n cludo ffrwythau i Dde America, mae Rachel wedi cynhyrchu 52 rîl o ffilmiau sy’n dogfennu’r daith o Dover i Cartagena, drwy Columbia, yr Ariannin a Chile. Gyda chamera, harmonica a llyfr llafar yn gwmni, hi oedd yr unig un nad oedd yn aelod o’r criw, ac fe lwyddodd i gofnodi deunydd helaeth ar ffilm Super-8. Wedi’u cyflwyno ar y cyd am y tro cyntaf, mae’r ffilmiau’n ffurfio math o deithlyfr, cofnod o oriau, dyddiau, wythnosau a dreuliwyd ar y môr.

Mae Dreamboat yn archwilio nid yn unig cymhellion Rachel ei hunan, ond hefyd y dyheadau sydd gan bawb ohonom. Yr hyn sy’n cadw’r rhan fwyaf ohonom yn yr unfan pan fydd ein breuddwydion dyddiol am y dyfodol yn cynnwys teithiau i leoedd pellennig, dianc wrth undonedd o ddydd i ddydd, ffantasïau'r person y gallem fod.

Programme