The John Gingell Award

17 Awst - 28 Medi 2013

Alan Goulbourne, <i>Skin</i>, 2013

The John Gingell Award has been established in honour of an artist whose impact on art education began in Cardiff’s oldest art institution over four decades ago. John Gingell (1935-2007) was a pioneering and passionate artist and arts educator. His own work crossed many media from painting, performance, installation, to sculpture and public art. Having arrived in Cardiff in the late 60s from London’s Whitechapel Gallery to teach at the Howard Gardens art school on the revolutionary Foundation studies, John Gingell developed new teaching ‘event’ structures which combined performance alongside schooling. He established a dedicated space for exploratory film / performance known as the Third area / space workshop, which was then formalised into Time based studies – arguably among one of the first such courses in the UK.

Sefydlwyd Gwobr John Gingell i anrhydeddu artist a ddechreuodd ddylanwadau ar addysg gelf yn sefydliad celf hynaf Caerdydd dros bedwar degawd yn ôl. Roedd John Gingell (1935-2007) yn artist ac yn addysgwr angerddol ac arloesol ym myd y celfyddydau. Roedd ei waith yn rhychwantu sawl cyfrwng - o beintio, perfformiadau a gosodiadau i gerflunwaith a chelfyddyd gyhoeddus. Ar ôl cyrraedd Caerdydd ar ddiwedd y 60au o Oriel Whitechapel yn Llundain i ddysgu’r cwrs astudiaethau sylfaenol chwyldroadol yn yr ysgol gelf yn Howard Gardens, datblygodd John Gingell strwythurau ‘digwyddiadau’ dysgu newydd a oedd yn cyfuno perfformio yn ogystal ag addysg fwy ffurfiol. Sefydlodd ofod wedi’i neilltuo i ffilm a pherfformiadau archwiliol, sef y gweithdy y Trydydd ardal / gofod. Cafodd y trefniant hwn ei ffurfioli gan ddatblygu’n astudiaethau ar sail Amser - mae’n siŵr mai dyma un o’r cyrsiau cyntaf o’u bath yn y DU.


Yn unol â dymuniadau John, mae’r teulu Gingell a g39 wedi datblygu gwobr sy’n parhau gwaddol John a’i waith fel lladmerydd angerddol dros addysg gelf, drwy gefnogi datblygiad gyrfaol dau arlunydd a ddewisir drwy broses gyflwyno agored. Mae’r teulu wedi gwahodd g39 i gynnig cefnogaeth feirniadol a churadurol i Alan Goulbourne a Toby Huddlestone. Byddant yn cyflwyno eu gwaith terfynol am y tro cyntaf fel dwy arddangosfa mewn un lleoliad.

Mae Alan wedi datblygu cerfluniau newydd gydol y cyfnod mentora ers mis Ionawr. Mae ei weithiau cynharach wedi eu harddangos mewn orielau ac yn gyhoeddus, ac mae ei waith yn dwyn i gof rhai o gerfluniau mwyaf John Gingell. Bydd Toby yn dechrau ar broses benagored ac uchelgeisiol a fydd yn dod i benllanw yn ystod yr arddangosfa. Bydd yn edrych ar fecanwaith paratoi sioe unigol ac yn dechrau gyda darlith berfformio 11 munud yn y rhagolwg, lle bydd Toby'n rhoi crynodeb byr o'i yrfa gelf, y gwych a’r gwachul. Ni fydd ei waith yn derfynol tan ddyddiau ola’r sioe.


John Gingell – A legacy. Nos Wener 30 Awst 6pm


Sgwrs am yr Arddangosfa gyda Heike Roms Heike Roms PhD (FRSA) yn trafod bywyd a gwaith John Gingell a Gwobr John Gingell. Am ddim, croeso i bawb.
Heike Roms yw Cyfarwyddwr Prosiect ‘What's Welsh for Performance?’, archwiliad mawr o gelfyddydau perfformio yng Nghymru, a ddechreuodd yn 2005. Mae wedi cyhoeddi’n doreithiog ar berfformio cyfoes (yn enwedig ar waith sy’n tarddu o Gymru). Hi oedd Prif Ymchwilydd ‘Locating the early history of performance art in Wales 1967-1979’, sef prosiect ymchwil yn canolbwyntio ar hanesyddiaeth celfyddydau perfformio cynnar. Mae Heike yn Athro Astudiaethau Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Lansio llyfr Nos Sadwrn 28 Medi 6-9pm


Bydd penllanw prosesau gweithio Toby Huddlestone yn ystod Gwobr John Gingell Award yn cael eu dwyn ynghyd mewn llyfr argraffiad cyfyngedig a fydd yn cau pen y mwdwl ar ei arddangosfa.

  • John Gingell with `Power Box, Meshchip and Blue Flash`, 1992-94. Photograph: Jeff Morgan
  • John Gingell, Performance at Trafalgar Square, 1 of 3 Anti-apartheid demonstrations organised with colleagues & students from Howard gardens, 1970
  • John Gingell, <I>the walking talking standing still machine</i>, Cardiff College of Art
  • Alan Goulbourne, <i>Skin</i>, 2013
  • Alan Goulbourne, <i>Sorry Paul</i>, 2013
  • Alan Goulbourne, <i>Tree Study</i>, 2013
  • Toby Huddlestone`s editorial pod
  • Toby Huddlestone`s ramp
  • Toby Huddlestone`s editorial pod

Programme