21 - 30 Hydref 2011

21 – 30 October 2011
The Lombard Method, 68a Lombard Street, Birmingham. B12 0QR
As part of The Event, an Artist led biennial taking place throughout Birmingham, The Lombard Method will be stripped of its studios and transformed into a point of dialogue between organisations and artists from across the UK.
This year’s incarnation of The Event brings g39 together with Bristol Diving School, David Dale Gallery, Generator Projects, Ikon Gallery, John Walter, Malgras!Naudet, Meantime, Rhubaba and S1 as well as including space for The Lombard Method to exist within its own walls.
Fel rhan o Y Digwyddiad (‘The Event’), arddangosfa dan arweiniad artist i'w chynnal bob dwy flynedd ledled Birmingham, bydd stiwdios ‘The Lombard Method’ yn cael eu trawsnewid yn bwynt deialog rhwng sefydliadau ac artistiaid o bob cwr o'r DU.
Mae Y Digwyddiad eleni yn dod â g39 ynghyd ag Ysgol Plymio Bryste, Oriel David Dale, Prosiectau Generator, Oriel Ikon, John Walter, Malgras!Naudet, Meantime, Rhubaba ac S1 yn ogystal â chynnwys lle i’r ‘Lombard Method’ fodoli o fewn ei waliau ei hun. Ar gyfer ei gyfraniad curadurol, mae g39 wedi gwahodd Artistiaid o Gymru
Rosie Dolton, Niamh Conneely a
Nia Metcalfe i ddatblygu gwaith newydd o fewn y gofod.
Mae g39 wedi defnyddio cyfres o bebyll trwm, milwrol eu harddull fel rhan o'i annedd dros dro yn Y Llaethdy, Caerdydd. Gyda syniadau o nomadiaeth ac addasu, cludodd g39 un o'r pebyll i ‘The Lombard Method’ i hwyluso gosodiad ar y cyd gan Rosie Dolton a Niamh Conneely, gyda Nia Metcalfe yn darparu trosolwg curadurol. Cynhaliodd Nia 'Boot Camp’ Artistiaid a oedd yn rhannol yn sylwebaeth, yn rhannol yn berfformiadol ac yn rhannol yn holiadol, gan ofyn cwestiynau agored a phendant am yr hyn y mae’r artistiaid yn eu hoffi, eu caru a’u casáu, a’u cyfuno â chwestiynau fel Beth oeddech chi am fod pan oeddech yn tyfu fyny? a G&T neu Gwrw? o swyddfa glerigol addas ar gyfer curadur. Yn dilyn hynny, lluniodd adroddiad ar ei chanfyddiadau ac, efallai, trwy’r ymchwiliad hwn i’w hoffterau personol efallai y byddwn yn cael golwg parhaol i’w gwaith.
Roedd gweithiau newydd gan Conneely a Dolton, sy'n gweithio ym maes cerflunio ac yn aml ar osodiadau a arweinir gan broses, yn llwyfan i’r digwyddiad hwn. Mae gan Rosie ddiddordeb mewn defnyddio prosesau ailadroddus, sydd â chysylltiadau benywaidd nodweddiadol fel gwnïo, ac mae’n gwahodd aelodau o'r gynulleidfa i gydweithio wrth gymhwyso arferion o'r fath i'r babell sy’n gweithredu fel swyddfa. Gwnaeth Niamh osod gwaith yn y babell ac o’i chwmpas. Creodd y gwaith yn dilyn cyfnod o feddwl ac ymchwil i themâu sy'n gysylltiedig â natur filwrol y pebyll a syniadau ynghylch ‘gwneud y gorau’ mewn rhai sefyllfaoedd (sy’n anffafriol neu’n llai na delfrydol).
http://www.thelombardmethod.org/