Mae Maud Haya-Baviera yn gweithio gydag amrywiaeth o gyfryngau a dulliau, gan gynnwys fideo, ffotograffiaeth, cerflunwaith a gosodiadau, gan ddefnyddio strategaethau priodoli, perfformio a chyfranogi. Mae hi’n defnyddio llenyddiaeth, sinema ac unrhyw ddeunydd arall sy’n gallu cyfleu naratifau, y mae hi wedyn yn eu gwyrdroi’n chwareus i ennyn ystyron newydd.
Mae ei gwaith presennol yn cymhwyso arbrofion gweledol i brofi, datgelu a herio lluniadau cymdeithasol a gwleidyddol. Yn fwy cyffredinol, mae ei gwaith yn canolbwyntio ar bryderon rhyddfreiniol. Mae wedi arddangos ei gwaith yn unigol ac mewn sioeau grŵp yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac wedi derbyn nifer o wobrau mewn perthynas â phrosiectau rhyngwladol a thuag at gynhyrchu gweithiau newydd.
Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys Aggregate, Freelands Foundation, Llundain, 2022, Heavy Water, Site Gallery, Sheffield, 2021, Big Screen Southend, Focal Point Gallery, Southend-on-Sea, 2021, Talking Sense, The Portico Library, Manceinion, 2020, Some Palaces, Künstlerhaus Dortmund, Yr Almaen, 2019, SALTO Verbindt, Amsterdam, Yr Iseldiroedd, 2019, sgriniadau Doc/Fest, Global Citizens Strand, Sheffield, 2019. Mae comisiynau diweddar yn cynnwys gwaith celf cyhoeddus ar gyfer ARTHOUSES: LOCALwifi, wedi’i arddangos yn nhref arfordirol Whitley Bay yn 2021. Dewiswyd gwaith Haya-Baviera yn ddiweddar gan Towner Eastbourne ar gyfer arddangosfa a fydd yn cael ei chynnal yn 2022 a 2023.