
Nicolaas van de Lande, Carlos Posing In His Basement, 2018.
Mae Nicolaas van de Lande yn artist sy'n gweithio gyda gosodiadau, cerfluniau a ffotograffiaeth. Mae ei osodiadau wedi'u gwneud o gerfluniau a gwrthrychau mae wedi eu darganfod sy'n ystumio tuag at y syniad ontolegol fod popeth yn blastig – gan olygu nad yw ffurfiau digyfnewid yn bodoli.
Ganwyd Nicolaas yn Breda ac mae wedi'i leoli yn Llundain ac Amsterdam. Astudiodd yn Gerrit Rietveld Art Academy, yr Iseldiroedd (2016), a gwnaeth MA mewn ymarfer celf gyfoes yn y Coleg Celf Brenhinol, DU (2019). Mae arddangosfeydd unigol yn cynnwys Sleazy Decorations: Party Time in Croyden, Croyden Arts Store (2018); a Breehornstraat 113, sioe unigol, prosiect hunangychwynnol mewn cyfadeilad tai cymdeithasol, Amsterdam (2016/17). Mae arddangosfeydd grŵp yn cynnwys sioe raddio y Coleg Celf Brenhinol (2019); Ambiguity, No Studio, Amsterdam (2019); Textures of Taste, Paleis van Mieris, Amsterdam (2016); Dirty Daisies, Art The Hague, yr Hâg (2016).
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: SURVEY II Dolenni :https://
www.rca.ac.uk/students/nicolaas-victor-van-de-lande/