
Natasha MacVoy, Tattoo, 2018
Mae Natasha MacVoy yn creu gwaith am y gweithgaredd o edrych, a'r modd y mae cyrff yn dirnad mewn ffyrdd anweledol eraill. Gan ddefnyddio'i phrofiadau a'i harsylwadau personol, mae ei gwaith yn archwilio terfynau golwg a safle. Mae'r bwlch rhwng datgelu a chelu yn cynnig amgylchiadau gwaith ffrwythlon wrth iddi gyfuno straeon y mae wedi eu canfod a'u clywed ynghyd â straeon personol i greu iaith weledol ffisegol sy'n dal yn ôl gymaint ag y mae'n ei rannu. Trwy ddefnyddio sgyrsiau a golygu mae defnydd Natasha o eiriau a deunyddiau yn gynnil, gan eu troi'n ffurfiau iaith a myfyrdod amgen. Mae'r ffordd mae'n defnyddio'r un deunyddiau yn ei gwaith ond yn ailymweld â hwy, ac yn dadadeiladu a gwaredu, yn creu deialog barhaus rhwng ei gweithiau, yn weledol ac yn gysyniadol.
Rwy'n cael golwg ar du mewn y corff trwy ymchwil meddygol ac ymgynghoriadau, yn gofyn cwestiynau am bethau sy'n absennol a gwagleoedd ar adeg marwolaeth, ac yn ail ystyried gofal trwy adrodd straeon.
Rwy hefyd yn fam a'r un sydd â phrif ofal efeilliaid niwrowahanol sydd ddim eto yn eu harddegau a ddim yn mynychu addysg brif ffrwd.
Graddiodd Natasha o Gaerdydd yn 2001 gyda BA (Anrh) yn y Celfyddydau Cain, cyn symud i Alpau Ffrainc i weithio fel ffotograffydd chwaraeon llawrydd am bum mlynedd. Cwblhaodd ei gradd Meistr yn y Celfyddydau Cain yn UWE, Bryste, yn 2009. Ymhlith arddangosfeydd diweddar mae Blush, sioe grŵp yn Oriel ASC, Llundain, Awst 2022, a hefyd My Kid Could've Done That, sioe grŵp wedi'i churadu gan Will Cooper, Oriel Andrew Brownswood, Caerfaddon, 2021, Sioe Aelodau OUTPOST a ddewiswyd gan Catalyst Arts, 2021, Your phone is my gallery, perfformiad dros y ffôn yn ystod y cyfnod clo, 2020, Groping In The Dark, sioe unigol, Test Space, Spike Island, Bryste, 2019, Death Club, trafodaethau grŵp misol am farwolaeth er mwyn dysgu sut i fyw ac fel cyferbyniad i fân siarad boreau coffi; mae awyrgylch ddidwyll ac agored y grŵp yn agor y drws i drafod pynciau amrywiol yn amrywio o fregusrwydd ac ofn i uchelgais a chymhelliant, 2019.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: UNITe 2019 tibrO yalP Dolenni :https://
www.natashamacvoy.com/