Artist Cymreig wedi ei lleoli yng Nghaerdydd yw Gweni Llwyd. Mae ei hymarferiad yn adlewyrchu sut mae’r cyflwr dynol yn gorwedd rhwng corfforolrwydd cyffyrddol a bydoedd digidol ansylweddol. Mae Gweni yn gludweithio elfennau anghyfartal gyda’i gilydd i greu rhythmau a naratif haniaethol, gan adlewyrchu ein natur anhrefnus, anghysylltiol y byd sydd ohoni. Gan ddefnyddio ffilmiau hapgael o lygad y ffynnon, peiriannau gemau a deunydd corfforol, mae ei gwaith yn pylu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd yma’n nawr a’r hyn sy’n bodoli rhywle arall mewn amser.
Mae Gweni hefyd yn gyd-sefydlydd RAT TRAP, sef casgliad o artistiaid a cherddorion sy’n darganfod llwybrau eu hunain drwy ddrysni protocolau a ffyrdd o wneud pethau. Y canlyniadau yw digwyddiadau byw sy’n gyfuniad o gerddoriaeth byw, perfformiadau ac arddangosfeydd gyda phwyslais cyfartal ar bob un, ac yn gymysgfa o gynulleidfaoedd a ffurf celf. Maent yn ffocysu ar fywiogrwydd a gwaith sy’n datblygu yn ystod sgyrsiau. Mae’r gwaith yn amrwd a difyfyr, ond yn ystyriol a manwl gywir.
Mae prosiectau ac arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: Preswylfa Jerwood UNITe, g39 Caerdydd (2021); Gŵyl y Dyn Gwyrdd Comisiwn Artist (2020); Anti Beta, […] Mission Gallery, Abertawe (2020); V&A Museum Late, Llundain (2019); Gripping Wrists, LUX Scotland and Tendency Towards, Aberdeen (2018. Yn 2018, fe dderbyniodd Gweni Wobr Coffa Brian Ross gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ysgoloriaeth Artist Ifanc Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Artist Ifanc NOVA Cymru.