Gweni Llwyd

b. 1995, Wrecsam
Byw a gweithio Cardiff

Gweni Llwyd <i>Anit Beta</i>, Still, 2019
Gweni Llwyd Anit Beta, Still, 2019

Artist Cymreig wedi ei lleoli yng Nghaerdydd yw Gweni Llwyd. Mae ei hymarferiad yn adlewyrchu sut mae’r cyflwr dynol yn gorwedd rhwng corfforolrwydd cyffyrddol a bydoedd digidol ansylweddol. Mae Gweni yn gludweithio elfennau anghyfartal gyda’i gilydd i greu rhythmau a naratif haniaethol, gan adlewyrchu ein natur anhrefnus, anghysylltiol y byd sydd ohoni. Gan ddefnyddio ffilmiau hapgael o lygad y ffynnon, peiriannau gemau a deunydd corfforol, mae ei gwaith yn pylu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd yma’n nawr a’r hyn sy’n bodoli rhywle arall mewn amser.

Mae Gweni hefyd yn gyd-sefydlydd RAT TRAP, sef casgliad o artistiaid a cherddorion sy’n darganfod llwybrau eu hunain drwy ddrysni protocolau a ffyrdd o wneud pethau. Y canlyniadau yw digwyddiadau byw sy’n gyfuniad o gerddoriaeth byw, perfformiadau ac arddangosfeydd gyda phwyslais cyfartal ar bob un, ac yn gymysgfa o gynulleidfaoedd a ffurf celf. Maent yn ffocysu ar fywiogrwydd a gwaith sy’n datblygu yn ystod sgyrsiau. Mae’r gwaith yn amrwd a difyfyr, ond yn ystyriol a manwl gywir.

Mae prosiectau ac arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: Preswylfa Jerwood UNITe, g39 Caerdydd (2021); Gŵyl y Dyn Gwyrdd Comisiwn Artist (2020); Anti Beta, […] Mission Gallery, Abertawe (2020); V&A Museum Late, Llundain (2019); Gripping Wrists, LUX Scotland and Tendency Towards, Aberdeen (2018. Yn 2018, fe dderbyniodd Gweni Wobr Coffa Brian Ross gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ysgoloriaeth Artist Ifanc Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol a Gwobr Artist Ifanc NOVA Cymru.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Sightseers
RAT TRAP x g39
Jerwood UNITe 2021 Open Studios

Dolenni :
www.gwenillwyd.com
  • Gweni Llwyd <i>Anit Beta</i>, Still, 2019
  • Gweni Llwyd <i>Annwn Virtual World</i>, Still, 2021
  • Gweni Llwyd <i>Gro Chwipio</i>, Film Still, 2017
  • Gweni Llwyd <i>Switch Gif series</i>, Film Still, 2020
  • Gweni Llwyd <i>Lady of Sorrows_AR filter_2020_with thanks to António Joaqium Sousa</i>, 2020