
Paul Eastwood, Dyfodiaith, still 2019
Mae Paul Eastwood yn artist yn Wrecsam gyda modd o weithio sy'n archwilio celf fel ffurf ar gynhyrchu cymdeithasol ac adrodd straeon diwylliannol. Mae'n creu hanesion a delweddau o’r dyfodol gyda naratif i archwilio sut gall lle a gwrthrychau gyfleu hunaniaethau diwylliannol.
'Edrychaf ar waith celf a'i fframio fel cynhyrchiad cymdeithasol a dull o adrodd straeon diwylliannol. Rwy'n defnyddio gwrthrychau yn strategol trwy osodiadau cerfluniol a fideo ar wahân i wneud naratifau newydd. Gan weithio drwy gyfryngau testun, cerflunio, perfformiad, fideo, llunio, gwaith print a thecstiliau, rwy'n ysgrifennu i arwain fy naratif a’r ffordd rydym yn gwneud gwrthrychau. Mae'r testunau hyn yn aml yn arsylwadau hyper-realaidd rhythmig ar y byd y ceisiaf ei adrodd, gan awgrymu dyfodol sydd eisoes wedi digwydd. Rwy’n defnyddio teitlau er mwyn creu naratifau micro i fy nghasgliadau cerfluniol weithredu oddi fewn iddynt. Fy mhrif ddiddordeb yw sut y mae gwrthrychau a phobl yn bodoli mewn gofod pensaernïol a'r amgylchedd adeiledig, a sut y mae gan wrthrychau'r potensial i gyfleu hunaniaeth ddiwylliannol.'
Astudiodd Eastwood yn yr Academi Frenhinol ac Ysgol Gelf Wimbledon ac ef oedd enillydd y
NOVA Art Prize agoriadol, Cymru, yn 2018. Mae arddangosfeydd diweddar yn cynnwys:
Dyfodiaeth, prosiect unigol, Chapter, Caerdydd;
NOVA, yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth ac Arcêd, Caerdydd, 2018;
Segrgrair, Oriel Wrecsam, Preswylfa ac Arddangosfa
Litmus, Oriel Davies, y Drenewydd;
Unit(e) Summer school, g39, Caerdydd, trwy gydol 2017;
Editions commission, Paul Eastwood a Lucy Woodhouse, Oriel Focal Point;
Feast of Fools, TAP, Southend, 2016, a
Severed, returning your love, Oriel Focal Point, 2015.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: UNIT(e) SUMMER SCHOOL Rumblestrip Dolenni :http://www.paul-eastwood.net/