
Gaia Persico, World Animations 2010
Mae Gaia Persico yn creu lluniau disymud ac wedi'u hanimeiddio o dirweddau a phensaernďaeth yn y lleoliadau amryfal y mae'n ymweld â nhw wrth deithio.
Gan ddefnyddio naill ai meddalwedd ddigidol neu bennau lleol a phapur pennawd cyfarch, mae'n disgrifio eu lluniau fel 'cipluniau o adeg benodol iawn'. Mae Gaia yn ceisio dal y manylion bach, darfodedig, yr hyn sy'n newid drwy'r amser – popeth sydd yn cael ei esgeuluso'n aml gan bobl heddiw gyda’u rhychwant sylw byr a’u hawydd i gael eu boddhau ar unwaith.
Mae cyfres World Animations Gaia yn cyflwyno lluniau o ddinasluniau, wedi'u tynnu wrth edrych allan o ffenestri gwestai ar olygfeydd. Mae safbwynt ffrâm sengl wedi'i rhewi o'r metropolis yn gweithredu fel llwyfan, a'r symudiadau bywyd gwirioneddol sy'n digwydd yw'r unig bethau sy'n cael eu hanimeiddio wrth i'r llun gael ei dynnu. Dim ond rhywfaint o symud sy'n digwydd: drws yn agor, cysgod sy'n ymddangos ar y llawr, golau yn troi ymlaen ac yn diffodd, neon sy'n fflachio, lifft yn codi. Mae cyfnodau seibiant hir yn annog y gwyliwr i archwilio'r animeiddiadau'n agos er mwyn sicrhau nad yw'n colli'r symudiad nesaf. Mae ymdeimlad o ddisgwyl a thensiwn; mae rhywbeth ar fin digwydd ond nid yw'r naratif byth yn datblygu'n llawn.
Mae Gaia Persico yn artist, curadur ac awdures. Mae wedi bod yn artist gweledol ers 2002, yn curadu arddangosfeydd ers 2005, ac yn awdur cyhoeddedig ers dros bum mlynedd, ac yn ddiweddar mae wedi dod yn yogini a chrefftwr ymladd. Graddiodd gyda BA (Anrhydedd) yn 1995 mewn Celfyddyd Gain o Sefydliad Celf a Dylunio Surrey, Farnham, ac yn 2002 gydag MA mewn Celf o Ysgol Gelf Wimbledon, Prifysgol y Celfyddydau, Llundain.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: Innocence and despair If You Build It They Will Come Everything.
All At Once.
At The Same Time. Mae'r artist yn ymddangos mewn: One In The OtherMae'r artist yn ymddangos mewn: It Was Never Going To Be StraightforwardDolenni :www.gaiapersico.com