Sadia Pineda Hameed

Tiny Bubbles, Film, 2018
Tiny Bubbles, Film, 2018

Artist, llenor a churadur annibynnol wedi ei lleoli yng Nghaerdydd yw Sadia Pineda Hameed. Mae hi’n gweithio gyda ffilm, gosodiad, ysgrifen a pherfformiad. Mae’n aml yn cydweithio gyda Beau W Beakhouse ac yn gyd-sefydlydd LUMIN, sef argraffiad, casgliad creadigol, prosiect curadurol a rhaglen radio.

Mae ei hymarferiad yn archwilio trawma etifeddol a chyfunol; yn benodol, y ffyrdd cudd rydym yn ei drafod. Mae ganddi ddiddordeb yn y ffyrdd gall breuddwydio , cymundeb telepathig a rhannu cyfrinachau efallai weithredu fel ffurfiau o wrthsafiad ac fel strategaethau gwrth-wladfaol. Mae ei hymarferiad yn cael ei harwain gan deithio semiotig a chysylltiadol, a hyder yn y broses reddfol.

Mae ffilm ddiweddar ar gyfer The Bluecoat ‘The Song of My Life” yn ffocysu ar adrodd storïau mamlinachol. Mae’n barodi o fideo steil karaoke poblogaidd gyda’r testun yn ymddangos fel geiriau ar gyfer deuawd gyda dim ond un rhan yn cael ei ganu gan yr artist. Mae’r ffilm yn archwilio sut mae atgofion a phrofiadau yn pasio ar lafar neu’n ddilafar rhwng rhiant a phlentyn.
Mae Sadia hefyd wedi arddangos gwaith gyda Artes Mundi, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, g39 WARP, MOSTYN, Peak Cymru, SHIFT, Gentle/Radical, Yr Eisteddfod Genedlaethol, HOAX, ArcadeCampfa, a Catalyst Arts. Mae hi wrthi’n ysgrifennu ei darn hir cyntaf; nofel fer ffeithiol creadigol To Make Philippines, gyda chymorth Ysgoloriaeth Awduron a Chynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020. Derbyniodd wobr Rising Star Cymru 2020.



Dolenni :
https://sadiaph.com
  • The Library is a Growing Organism, A5 Print, 2019
  • Tiny Bubbles, Film, 2018