Sam Venables

b. 1986, Ellesmere Port
Byw a gweithio London

Sam Venables, <i>DO/DON`T</i>, 2017
Sam Venables, DO/DON`T, 2017

Mae Sam Venables yn creu gwaith celf sy'n defnyddio cyfeiriadau diwylliant isel a delweddau pop, gan gyfeirio'n uniongyrchol at brynu a gwerthu o bob math. Mae'n ymddiddori mewn pam y mae pobl yn cael eu denu at bethau, gwrthrychau neu weithgareddau. Mae ei gwaith yn cael ei ysgogi gan fandom, arddangos a thechneg, gan feddiannu'r gofod rhwng y tri pheth hyn.



Dechreuodd Venables fel teiliwr yng nghwmni Levi's, a gellir gweld ei pharch tuag at sgil cyffyrddog yn ei gwaith celf, sydd ag ansawdd o wneuthuriad llaw yn aml. Mae'n hanfodol iddi fod gwaith celf yn cwrdd â'i safonau rheoli ansawdd ei hun, boed hynny'n golygu ei wneud yn annibynnol neu drwy weithio gyda chrefftwyr medrus. 'Mae'n hollbwysig i mi fod y dull a'r deunydd o'r math mwyaf priodol ar gyfer y gwrthrych yr wyf yn ei greu. Yn ddiweddar, dechreuais gwrs ysgrifennu arwyddion traddodiadol mewn iard ffair weithredol o dan arweiniad y perfformiwr Joby Carter gan yr oeddwn i am ddatblygu fy sgiliau er mwyn cynhyrchu gwaith sy'n fwy seiliedig ar destun. Mae sgwrs waelodol barhaol yn fy ngwaith mewn perthynas â dosbarth a gwerth. Mae'r cylchred o fynd i'r gwaith er mwyn creu gwaith neu gymhwyso setiau sgiliau pwrpasol megis cynllunio gosodiadau siop neu ysgrifennu arwyddion i'm gwaith personol yn codi dro ar ôl dro. Mae'r sefyllfa hon wedi bod yn angenrheidiol i mi bob amser ond bellach rwyf yn ei gweld hefyd fel pwynt ymchwil o fewn fy ngwaith. Rwyf wedi gweithio bob amser i gefnogi fy ngwaith a dros y deng mlynedd diwethaf bues i'n gweithio fel marchnatwraig weledol yn datblygu iaith weledol ar gyfer brand ac yn meddwl am y gofod manwerthu fel man arddangos i ddangos eitemau sydd o werth.'

Mae ei diddordeb mewn arddangos yn amlwg hefyd yn ei phrosiectau curadurol. Yn 2016, bu'n curadu prosiect o'r enw IT'S FRIDAY fel rhan o Glasgow International, ar draws pedwar wyneb siop, gan ddefnyddio arddull pwrpasol siop adrannol ar gyfer yr arddangosfeydd ffenestr. Cyn hynny, Sam oedd cyfarwyddwr The Royal Standard, Lerpwl. Mae ei sioeau diweddar yn cynnwys Slummy yn PlazaPlaza, Llundain, Effort yn Dada Post, Berlin, a Do/Don't yn Airspace, Stoke-on-Trent.

Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa:
Everything.
All At Once.
At The Same Time.


Dolenni :
http://www.corridor8.co.uk/article/things-money-art-work-class/
  • Sam Venables, <i>Plaza Plaza</i>, 2017
  • Sam Venables, <i>THESE HANDS</i>, 2017
  • Sam Venables, <i>Slummy</i>, 2017
  • Sam Venables, <i>Plaza Plaza</i>, 2017
  • Sam Venables, <i>DO/DON`T</i>, 2017
  • Sam Venables, <i>THESE HANDS</i>, 2017