About g39

Mae g39 yn sefydliad sy'n cael ei rhedeg gan artistiaid ac mae'n ofod cymunedol creadigol yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Amcanion g39 yw datblygu a hyrwyddo celf weledol gyfoes er budd y cyhoedd yn enwedig ond ddim o reidrwydd trwy gynnig gofod arddangos ar gyfer artistiaid Cymraeg ac artistiaid gweledol cyfoes arall, a thrwy gynnig hyfforddiant ac adnoddau tebyg eraill i artistiaid a'r cyhoedd. Mae g39 yn cael ei staffio gan dîm bychan o staff rhan amser a gwirfoddolwyr ac mae'n cael ei reoli gan fwrdd o aelodau sy'n ymddiriedolwyr. Cofrestrir y sefydliad gyda Tŷ'r Cwmnïau fel cwmni dosbarthu dielw cyfyngedig trwy warant. Y swyddfa gofrestredig yw g39, Oxford St, Caerdydd CF24 3DT, a rhif cofrestredig y cwmni yw 3938363. Mae g39 yn gwneud cais ar hyn o bryd i'r Comisiwn Elusen er mwyn cael ei hadnabod fel elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru.

Er mwyn cyflawni dibenion g39, rydym yn trefnu a chyflwyno rhaglen gyhoeddus eang o weithgareddau, o arddangosfeydd mawr, cyflwyniadau a symposia ffurfiol i brosiectau arbrofol a digwyddiadau cymdeithasol.

Rydym hefyd yn cynnig cynllun aelodaeth anffurfiol i artistiad ar ddechrau eu gyrfa ac artistiaid mwy sefydledig sydd yn byw a gweithio yng Nghymru. Trwy Raglen Adnoddau Artistiaid Cymru (WARP) rydym yn cynnig cyngor, hyfforddiant a gwybodaeth i artistiaid ac rydym yn hwyluso rhwydweithio rhwng artistiaid unigol a grwpiau. Nid yw g39 yn cynrychioli artistiaid yn fasnachol; yn hytrach, rydym yn annog hunan-reoli a phroffesiynoldeb.

Mae g39 yn cysylltu'n rheolaidd gyda 1,300 o artistiaid, gyda 700 ohonynt yn byw a gweithio yng Nghymru. Mae ein gweithgareddau ar y safle yn denu rhwng 4,000 a 5,000 o bobl yn flynyddol; mae ein gweithgareddau oddi ar y safle a chyfraniadau tuag at raglenni gwyliau yn arwain at nifer helaeth yn fwy o ymgysylltiadau â'r cyhoedd.

G39 yw'r unig sefydliad sy'n cael ei redeg gan artistiaid sydd â statws cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru ar hyn o bryd. Mae tua 57-60% o gostau'r sefydliad yn cael eu talu trwy gronfeydd sy'n dod trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r gweddill yn cael ei godi trwy gronfeydd ymddiriedolaeth, sefydliadau partneriaethol, incwm a enillir, rhoddion arian parod, ac mae'r amser a roddir gan ein gwirfoddolwyr ymroddedig yn hanfodol.