
Kathryn Ashill, Dragged Up, 2021, Film still ft. Len Blanco and Aneurin Heaven in drag king make up tutorial
Mae gwaith Kath Ashill wedi’i wreiddio mewn perfformiad byw, fideo a gosodiadau gan dynnu ar brofiadau o fyw o fewn hunaniaeth dosbarth gweithiol. Mae bod yn y theatr a'r estheteg o wneud pethau'ch hun sy'n rhan o fyd dramâu amatur yn caniatáu i'r unigolyn chwarae nifer o rolau ac i fod yn berfformiwr ac yn goreograffydd ei waith.
Mae'r gwrthdaro diwylliannol rhwng fy nghefndir a’m hymarfer artistig i'w weld yn y naratifau digyswllt sydd i'w canfod o fewn fy ngwaith. Rwy'n edrych am y natur theatrig sydd mewn pethau cyffredin bob dydd wrth rannu darnau o'm hanes i, a'm sylwadau ar bobl, hanes a lleoliadau. Mae’r defnydd cyson o wisgo drag yn fy ngwaith yn dechrau'r ddeialog am hanes brenin y drag mewn perfformiad cyfoes, yn ogystal â hwyluso archwilio fy hunaniaeth rhywedd fy hun. Rwyf wedi gwneud gwaith sy'n canolbwyntio ar bortread Cliff Richard o 'Heathcliff' yn ‘Wuthering Heights’ ym 1996; cotiau coch Butlins a’u pengliniau ceinciog a chelf perfformio; hanes y Prif Fachgen yn y pantomeim; pobl seicig; cylchgrawn Take a Break; gelod meddyginiaethol; atchweliad a chath a laddodd rhywun mewn bywyd blaenorol.
Graddiodd gyda BA Anrhydedd mewn Celfyddyd Gain (Cyfryngau Cyfunol) o Brifysgol Fetropolitan Abertawe (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant erbyn hyn) yn 2007. Enillodd radd MFA o Ysgol Gelf Glaschu/Glasgow yn 2015. Mae ei harddangosfa unigol yn 2021, 'Fools Gold', yn osodiad ffilm i Oriel Glynn Vivian sy’n rhan o Wobr Syr Leslie Joseph. Mae’n gwneud PhD am ei hymarfer ym Mhrifysgol Manceinion sy’n archwilio posibiliadau cydweithio rhwng rhywogaethau ar draws y celfyddydau perfformio, therapi anifeiliaid a biotherapïau.Ar hyn o bryd mae Kath yn un o wyth artist Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2022 gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bu’r artist hwn yn rhan o arddangosfa: ¿AreWeNotDrawnOnwardToNewEra? Gallery:
Kathryn Ashill - Principal Boy Mae'r artist yn ymddangos mewn: It Was Never Going To Be StraightforwardDolenni :www.kathrynashill.com